Rwyf yn gweithio i gwmni cyfreithiol Freshfields Bruckhaus Deringer, lle rydw i wedi bod yn uwch bartner ers 1996. Rwy'n arbenigo mewn cyfraith gorfforaethol, ac yn fwy penodol ym maes cydsoddi a chaffael traws-ffiniol a mentrau ar y cyd.
Rwyf yn aelod o Grwp Cynghori Corfforaethol Tate Gallery ac yn Ymddiriedolwr Tate Foundation. Rwyf hefyd yn Ymddiriedolwr yr Eden Project ac yn Gyfarwyddwr Habitat for Humanity GB, elusen tai.
Rwyf yn ymwneud cryn dipyn â Business in the Community, sefydliad sy'n cynorthwyo busnesau i gael effaith gadarnhaol ar y gymdeithas, ac rwyf yn aelod o bwyllgorau sy'n ymwneud â digartrefedd, addysg a datblygu rhaglenni cynnwys cymunedau ymhlith busnesau ledled Ewrop.
Mae fy mhrif ddiddordebau'n cynnwys fy nheulu a'm cartref, teithio, celf, y theatr, golff, pysgota a chlwb pêl-droed Southampton.
Anthony Salz's Bywgraffiad swyddfa'r wasg y BBC