BBC Trust BBC Governors
Home Annual report What's new About the Governors Documents & reports BBC Trust Advisory bodies Have your say
Who we are What we do What we don't do How the Governors are appointed Royal Charter & Agreement Governance unit

Sut y penodir y Llywodraethwyr

Penodir Llywodraethwyr y BBC gan y Frenhines yn dilyn cyngor gan weinidogion. Hysbysebir swydd pob Llywodraethwr yn y Wasg genedlaethol ac ar wefannau'r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a Swyddfa'r Cabinet.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr ymgeisio am y swydd ac yna bydd y rhai sy'n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu cyfweld yn ffurfiol gan gynrychiolwyr o'r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) ac aseswyr annibynnol. Cyflwynir argymhellion i'r Ysgrifennydd Gwladol ac yna i'r Prif Weinidog.

Caiff pob penodiad ei wneud yn unol â'r argymhellion a nodir gan Swyddfa'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus (OCPA). Mae gan OCPA god ymarfer yn seiliedig ar saith egwyddor, sef Egwyddorion Nolan, sy'n cynnwys pob penodiad gweinidogol i fyrddau cyrff cyhoeddus gweithredol a chynghorol anadrannol, cyrff y GIG, corfforaethau cyhoeddus (fel y BBC), diwydiannau gwladol a rheoleiddwyr gwasanaethau.

Top