BBC Trust BBC Governors
Home Annual report What's new About the Governors Documents & reports BBC Trust Advisory bodies Have your say
Who we are What we do What we don't do How the Governors are appointed Royal Charter & Agreement Governance unit

YR HYN NAD YDYN NI'N EI WNEUD

Fel Llywodraethwyr, rydyn ni'n penodi'r Cyfarwyddwr Cyffredinol a'r Cyfarwyddwyr Gweithredol i redeg y BBC o ddydd i ddydd. Rydyn ni'n monitro a goruchwylio eu gwaith. Ond mae nifer o bethau nad ydynt yn rhan o'n cylch gorchwyl, ond sy'n gyfrifoldeb penodol i reolwyr y BBC.

Tra'n bod yn gyfrifol am sicrhau bod y BBC yn gweithredu er lles y cyhoedd, nid ein cyfrifoldeb ni yw goruchwylio'r busnes o ddydd i ddydd. Gwaith y Bwrdd Gweithredol yw hynny. Mae gan y Bwrdd, tîm rheoli uchaf y BBC, naw aelod a'r Cyfarwyddwyr Cyffredinol yw'r cadeirydd. I gael gwybod mwy am ei ddyletswyddau a sut mae'n eu cyflawni, ewch i: http://www.bbc.co.uk/info/running/executive/

Dyma pam y dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am y ffordd mae'r sefydliad yn gweithredu o ddydd i ddydd at BBC Gwybodaeth yn hytrach na'r Llywodraethwyr. Mae BBC Gwybodaeth yn ymdrin ag amrywiaeth eang o ymholiadau ar unrhyw bwnc o wybodaeth am amserlenni i broblemau derbyn signal. Gallwch gysylltu â nhw trwy: http://www.bbc.co.uk/cymru/gwybodaeth/

Yn yr un modd, er ein bod yn cymeradwyo strategaeth gyffredinol y BBC, nid ydym yn gyfrifol am gomisiynu rhaglenni. Os ydych am gael gwybod sut y comisiynir rhaglenni, neu os ydych am gyflwyno syniadau am raglenni, ewch i:http://www.bbc.co.uk/commissioning/

Unwaith eto, yn y lle cyntaf dylid cyfeirio unrhyw gwynion golygyddol at y rhaglen dan sylw neu at BBC Gwybodaeth. Lansiwyd gweithdrefn gwynion newydd gan y BBC yn ddiweddar - mae manylion yn: http://www.bbc.co.uk/complaints/. Yma, mae'n egluro sut i wneud cwyn a sut i apelio i Fwrdd y Llywodraethwyr os nad ydych chi'n fodlon ar ôl i'r broses gael ei chwblhau.

Top