Uned Lywodraethu
Mae Uned Lywodraethu'r BBC yn cefnogi'r Bwrdd Llywodraethwyr. Adran annibynnol yw'r Uned sydd â 33 o staff dan arweiniad y Cyfarwyddwr Llywodraethu, Nicholas Kroll. Mae'r Uned yn atebol i'r Bwrdd yn unig ac yn sicrhau eu bod yn derbyn cyngor annibynnol a gwrthrychol, gan ofyn am gymorth allanol arbenigol pan fo angen.
Cynlluniwyd yr Uned i ddarparu amrywiaeth o arbenigedd a phrofiadau i gefnogi Llywodraethwyr wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau ac i archwilio cynigion gan reolwyr.
Cynlluniwyd yr Uned i ddarparu cymorth i'r Llywodraethwyr mewn tri maes allweddol.
-
Tîm perfformiad - cefnogi gwaith y Llywodraethwyr i asesu perfformiad y BBC. Mae'n arwain y gwaith o fonitro cynnydd yn erbyn amcanion corfforaethol a'r rhaglen dreigl newydd o adolygiadau gwasanaeth; mae'n cynllunio a sefydlu system gynhwysfawr o drwyddedau gwasanaeth (yn cynnwys monitro perfformiad yn eu herbyn); yn cynghori ar weithredu'r prawf gwerth cyhoeddus; ac yn cynghori ar ddatganiadau polisi rhaglenni.
-
Tîm gwerth am arian/cydymffurfio - ffynhonnell arbenigedd sylfaenol o ran rheoleiddio'r BBC, yn arbennig ar faterion ariannol, masnachol, economaidd a strategol. Mae'r tîm yn gweithio i sicrhau bod gweithgareddau'r BBC yn rhoi gwerth am arian i dalwyr trwydded, ac yn gweithredu'n deg yn fasnachol. Mae'r tîm hefyd yn arwain yr Uned Lywodraethu ar ddatblygu Ymddiriedolaeth y BBC.
-
Tîm atebolrwydd - Mae'r tîm atebolrwydd yn gyfrifol am gynllunio a darparu rhaglen waith sy'n galluogi'r Bwrdd Llywodraethwyr i ddeall pryderon talwyr trwydded, gwrando ar gynulleidfaoedd ac ymgynghori ar newidiadau. Mae'r tîm yn cydweithio'n agos gydag Ysgrifenyddion Cenedlaethol Cymru, Rhanbarthau Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban i sicrhau bod gwaith rhwydwaith atebolrwydd ffurfiol y BBC yn cyfrannu at feddylfryd y Llywodraethwyr. Mae'r tîm hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod y BBC yn trafod cwynion am ei gwasanaethau yn y ffordd fwyaf priodol. Mae hyn yn cynnwys cynnal Pwyllgor Cwynion am Raglenni'r Llywodraethwyr, sef y cam apelio terfynol ym mhroses delio â chwynion am faterion golygyddol y BBC.
Yn 2005/2006, cyfanswm cost yr Uned Lywodraethu oedd £8.3 miliwn. Roedd hyn yn cynnwys £1.3 miliwn ar gyfer y cynghorau ymgynghori cenedlaethol a rhanbarthol.
Bydd costau 2006/2007 yn cael eu hadrodd yn Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y flwyddyn nesaf.
Top