Ar ôl astudio'r gyfraith yn Rhydychen a chyflawni astudiaethau graddedig yn America, cefais fy ngalw i'r Bar (y Deml Fewnol) ym 1967.
Treuliais lawer o'm bywyd gwaith fel Cymrawd a Thiwtor y Gyfraith yng Ngholeg St Anne, Rhydychen, o 1970, a chefais fy mhenodi'n Bennaeth ar y Coleg ym 1991. Bum hefyd yn gweithio ar sawl prosiect i sicrhau bod addysg Prifysgol Rhydychen ar gael i'r amrywiaeth ehangaf o fyfyrwyr. Rwyf wedi cyhoeddi ar gyfraith teulu ac eiddo. Ac o 1994 i 2002 roeddwn i'n gadeirydd ar Awdurdod Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg y DU (HFEA), corff a sefydlwyd ym 1990 i ymchwilio i faterion moesegol sy'n codi oherwydd datblygiadau meddygol, a rheoleiddio gwaith ymchwil a thriniaeth anffrwythlondeb.
Ar ôl gadael St Anne yn 2004, cefais fy mhenodi fel y Beirniad Annibynnol cyntaf ar gyfer Addysg Uwch, yn ymdrin â datrys cwynion myfyrwyr.
Derbyniais DBE yn 2002 a'm hapwyntio yn arglwydd am oes yn 2005
Ruth Deech's Bywgraffiad swyddfa'r wasg y BBC