Fel Llywodraethwyr y BBC, ein prif swyddogaeth yw sicrhau bod y BBC yn parhau'n annibynnol ar ymyrraeth wleidyddol neu fasnachol ac yn gweithredu yn llwyr er lles gwylwyr a gwrandawyr.
Rydyn ni'n goruchwylio ei weithgareddau, yn enwedig gweithgareddau'r uwch reolwyr, a sicrhau ei atebolrwydd i'r rhai sy'n talu am drwydded yn uniongyrchol a thrwy'r Senedd.
Mewn rhai ffyrdd, rydyn ni fel bwrdd cwmni cyfyngedig cyhoeddus gan ein bod ni yma i gadw llygad ar y rhai sy'n rhedeg y Gorfforaeth a sicrhau eu bod yn gwneud eu gwaith yn iawn. Mewn ffyrdd eraill, rydyn ni fel rheoleiddwyr, yn sicrhau bod y BBC yn gwneud yr hyn mae wedi ymrwymo i'w wneud yn ôl ei Siarter, ei Gytundeb a'i Statud.
Fodd bynnag, mae'r BBC yn sefydliad unigryw. Fe'i ariennir gan ffi'r drwydded ac felly eiddo pobl Prydain yw'r sefydliad ac mae'n annibynnol ar fuddiannau gwleidyddol a masnachol. Felly, rydyn ni'n gweithio ar ran y rhai sy'n talu ffi'r drwydded, ac rydyn ni yma i sicrhau bod y BBC yn cynnig gwerth am arian. (Wedi dweud hynny, rydyn ni hefyd yn goruchwylio is-gwmnïau gweithredol y BBC fel BBC Worldwide Cyfyngedig a BBC Resources Cyfyngedig: cwmnïau masnachol sydd yn ceisio gwneud elw i'w fuddsoddi yn y gwaith o gynhyrchu rhaglenni)
Rydyn ni'n gweithredu dan delerau Erthygl 7 ein Siarter sy'n nodi pethau penodol mae'n rhaid i ni eu gwneud, er enghraifft:
Archebion Parhaol y Bwrdd
Mae'r Bwrdd wedi mabwysiadu Archebion Parhaol sy'n amlinellu cyfrifoldebau'r Llywodraethwyr a gweithrediadau y Bwrdd a'i bwyllgorau. Gallwch ddadlwytho'r ddogfen hon isod.
Rheoliadau Gwrthdaro Diddordebau
Mae Rheoliadau Gwrthdaro Diddordebau y Bwrdd yn amlinellu sut mae'r Bwrdd yn delio gyda Gwrthdaro Diddordebau. Pwrpas y Rheoliadau yma yw sicrhau bod trafodaethau a phenderfyniadau Bwrdd y Llywodraethwyr yn cael eu gwneud er lles talwyr ffi'r drwydded . Gallwch ddadlwytho'r Rheoliadau isod.
Gellir gweld datganiad diddordebau y Llywodraethwyr yn unigol yn yr adran Pwy Ydym, ond i'w gweld o fewn un ddogfen gweler isod.
Polisi Treuliau
Polisi safonol y BBC am hawlio treuliau yng nghwrs busnes sy'n ffurfio sail rheoliadau Bwrdd y Llywodraethwyr ar gyfer treuliau a buddion, ond mae'r rheoliadau yn wahanol mewn rhai ffyrdd, gan adlewyrchu rôl a chyfrifoldebau gwahanol y Llywodraethwyr i weithwyr y BBC. Gellir dadlwytho rheoliadau'r Llywodraethwyr isod. Yn ogystal â'r broses o gymeradwyaeth cyn ad-daliad, caiff treuliau'r Llywodraethwyr eu hadolygu yn wrtholygol ddwywaith y flwyddyn gan y Pwyllgor Archwilio.
TopIf you have a complaint about the BBC, and haven't done so already, please make it using the BBC Complaints web-site.