BBC Trust BBC Governors
Home Annual report What's new About the Governors Documents & reports BBC Trust Advisory bodies Have your say
Who we are What we do What we don't do How the Governors are appointed Royal Charter & Agreement Governance unit

Pwy ydyn ni?

Rydyn ni, Llywodraethwyr y BBC, yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

Yn yr adran hon o'r wefan mae crynodeb byr amdanom a'n cefndir, a'n rhesymau am ddymuno bod yn un o'r Llywodraethwyr.

Richard Tait
Penodwyd Richard Tait yn Llywodraethwr y BBC ar 1 Awst 2004. Mae'n Athro Newyddiaduraeth ac yn Gyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd, roedd yn Olygydd Channel 4 News o 1987 i 1995 ac yn Brif Olygydd ITN o 1995 i 2002.

Anthony Salz, Is-Cadeirydd
Penodwyd Anthony Salz yn Ddirprwy Gadeirydd y BBC ar 1 Awst 2004. Mae'n gyn Gyd-uwch bartner cwmni cyfreithiol Freshfields Bruckhaus Deringer, ac mae hefyd yn Ymddiriedolwr nifer o sefydliadau yn cynnwys yr Eden Project a'r Tate Foundation.

Deborah Bull
Penodwyd Deborah Bull yn Llywodraethwr y BBC ar 1 Awst 2003. Bu'n Brif ddawnswraig gyda'r Royal Ballet ac mae bellach yn Gyfarwyddwraig greadigol ROH2. Mae hi wedi ysgrifennu'n helaeth hefyd - llyfrau, newyddiaduraeth a rhaglenni a chyfresi'r BBC.

Andrew Burns
Penodwyd Syr Andrew Burns yn Llywodraethwr Rhyngwladol y BBC ar 1 Gorffennaf 2005. Ar ôl dilyn gyrfa lwyddiannus fel diplomydd, mae bellach yn Gadeirydd Cyngor Royal Holloway, Prifysgol Llundain, ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol Ymddiriedolaeth Buddsoddi Tsieineaidd JP Morgan Fleming.

Dermot Gleeson
Mae Dermot Gleeson wedi bod yn Llywodraethwr y BBC ers mis Tachwedd 2000. Mae wedi gweithio ym myd busnes ers dros 25 mlynedd. Ymunodd â'r MJ Gleeson Group ccc ym 1982, lle mae bellach yn Gadeirydd Gweithredol.

Merfyn Jones
Penodwyd Merfyn Jones yn Llywodraethwr Cenedlaethol Cymru y BBC ar 1 Ionawr 2003. Mae'n hanesydd a darlledydd ac yn Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Cymru a derbyniodd wobr Bafta Cymru yn 2000 am ei gyfraniad eithriadol i hanes ar y teledu.

Fabian Monds
Mae Fabian Monds wedi bod yn Llywodraethwr Cenedlaethol Gogledd Iwerddon y BBC ers 1999. Mae'n academydd, yn awdur ac yn ?r busnes, fe gynorthwyodd i sefydlu dau gwmni cyfrifiadurol ac mae hefyd yn gadeirydd Invest Northern Ireland a Chanolfan Trawma a Thrawsnewid Gogledd Iwerddon.

Jeremy Peat

Jeremy Peat
Penodwyd Jeremy Peat yn Llywodraethwr Cenedlaethol yr Alban ar 1 Ionawr 2005. Fe ymddeolodd yn ddiweddar o'i swydd fel Prif Economegydd Grwp yn y Royal Bank of Scotland, mae wedi cynghori llawr o adrannau'r Llywodraeth ac mae ganddo gadeiriau athro a doethuriaethau er anrhydedd yn nifer o Brifysgolion yr Alban.

Top