Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 Pwrpas, gweledigaeth a gwerthoedd Pwrpas y BBC yw cyfoethogi bywydau pobl gyda rhaglenni a gwasanaethau sy’n hysbysu, addysgu a diddanu Gweledigaeth y BBC yw bod y sefydliad mwyaf creadigol yn y byd Gwerthoedd  Ymddiriedaeth yw sail y BBC: rydym yn annibynnol, diduedd ac onest  Mae cynulleidfaoedd wrth wraidd popeth a wnawn  Rydym yn ymfalchïo mewn darparu ansawdd a gwerth am arian  Creadigrwydd yw enaid ein sefydliad  Rydym yn parchu ein gilydd ac yn dathlu ein hamrywiaeth fel y gall pob un wneud ei orau  Un BBC ydym: mae pethau mawr yn digwydd wrth i ni weithio gyda’n gilydd Cynnwys 2 Datganiad y Cadeirydd 104 Adroddiad y Cyfarwyddwr Cyffredinol 6 Y BBC nawr ac yn y dyfodol Bwrdd y Llywodraethwyr 22 14 12 Y Bwrdd Gweithredol Arolwg y Llywodraethwyr o’r amcanion Cipolwg ar y BBC Arolwg y Llywodraethwyr o’r gwasanaethau 24 Teledu 46 40 32 Radio Cyfryngau Newydd Newyddion BBC World Service a Global News Y Gwledydd a’r Rhanbarthau 54 50 58 Arolwg y Llywodraethwyr o’r gweithgareddau masnachol 60 Bod yn atebol ac yn gyfrifol 68 Perfformiad yn erbyn ymrwymiadau’r Datganiadau o Bolisi Rhaglenni 2005/2006 76 Cydymffurfiad 95 92 Arolwg ariannol Datganiadau ariannol 151 140 Ffeithiau a ffigurau darlledu Cysylltu â’r BBC Gwybodaeth arall152 BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 1 Datganiad y Cadeirydd Dyma adroddiad blynyddol olaf Bwrdd Llywodraethwyr y BBC, a gaiff ei ddisodli o dan y Siarter Frenhinol newydd ddrafft gan Ymddiriedolaeth y BBC. Hoffwn dalu teyrnged i waith yr holl Lywodraethwyr dros y pedwar ugain mlynedd diwethaf. Mae’r ffaith bod annibyniaeth y BBC yn parhau yn ddyledus, i raddau helaeth, i’w stiwardiaeth gadarn – weithiau yn wyneb ymosodiadau chwerw gan fuddiannau gwleidyddol a masnachol personol. Cydnabu fy rhagflaenydd fel Cadeirydd, Gavyn Davies, yr angen dybryd i foderneiddio trefniadau llywodraethedd y BBC, a llwyddodd y Bwrdd i adeiladu ar y gwaith a ddechreuwyd ganddo a’i gyd-Lywodraethwyr. Caiff y gwaith hwn ei gwblhau gan yr Ymddiriedolaeth gan ddefnyddio’r dulliau newydd sydd ar gael iddi o dan y Siarter newydd: Cylchoedd Gwaith Pwrpas,Trwyddedau Gwasanaeth a Phrofion Gwerth Cyhoeddus (nodir eu manylion yn Y BBC nawr ac yn y dyfodol, tudalen 9). Mae cydnabyddiaeth gynhenid mai diben yr Ymddiriedolaeth yw cynrychioli buddiannau talwyr ffi’r drwydded yn hytrach na buddiannau cul y BBC fel sefydliad wrth wraidd y trefniadau newydd. Er na chaiff y strwythurau newydd eu rhoi ar waith hyd nes y daw’r Siarter newydd i rym ym mis Ionawr 2007, mae’r Bwrdd Llywodraethwyr presennol yn llawn gefnogi’r newidiadau ac eisoes yn gweithredu o fewn ysbryd y Siarter newydd. O ganlyniad, mae’r gydberthynas rhwng y Bwrdd a’r Pwyllgor Gweithredol – sef y rheini sy’n gyfrifol am redeg y BBC o ddydd i ddydd – wedi dechrau newid. Bellach ceir rhaniad amlwg rhwng y ddau gorff hyn, gan alluogi’r Bwrdd i oruchwylio gwaith y Pwyllgor Gweithredol mewn ffordd annibynnol. Bydd y drefn hon yn dwysáu yn y dyfodol wrth i’r Ymddiriedolaeth ddefnyddio ei phwerau newydd i sicrhau y creffir ar waith y Pwyllgor Gweithredol mewn ffordd drylwyr, annibynnol a chwbl dryloyw. Prif swyddogaeth yr Ymddiriedolaeth fydd sicrhau y caiff disgwyliadau talwyr ffi’r drwydded o’r BBC eu bodloni o ran ansawdd a gwerth am arian ei wasanaethau, a bod y BBC yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni ei chwe phwrpas cyhoeddus fel y’u nodir yn y Siarter newydd ddrafft.Wrth gynrychioli buddiannau talwyr ffi’r drwydded, bydd yr Ymddiriedolaeth yn cydnabod bod y buddiannau hyn yn mynd y tu hwnt i’w buddiant uniongyrchol yn y BBC. Nid dim ond arlwy’r cyfryngau a ddarperir gan y BBC sy’n mynd â bryd talwyr ffi’r drwydded. Maent yn gwerthfawrogi’r dewis o wasanaethau a ddarperir gan eraill, a bydd yr Ymddiriedolaeth yn sicrhau bod y BBC yn gweithredu mewn ffordd sy’n cydnabod hyn yn llawn. Yn ddiau, caiff Pwyllgor Gweithredol y BBC ei siomi weithiau gan ganlyniad Prawf Gwerth Cyhoeddus – fel y caiff buddiannau sector preifat eu siomi weithiau. Ein swyddogaeth ni fel Ymddiriedolwyr y BBC fydd sicrhau bod buddiannau ehangaf talwyr ffi’r drwydded yn cael blaenoriaeth dros y buddiannau hynny. Mae’r Papur Gwyn a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, yn dilyn dwy flynedd o ddadleuon cyhoeddus, gwaith ymchwil a chasglu tystiolaeth, yn arwydd o hyder y cyhoedd yn y BBC. Mae’r Siarter ddeng mlynedd newydd a pharhad ffi’r drwydded yn rhoi sefydlogrwydd aruthrol i’r BBC o fewn tirlun cyfryngau cyfnewidiol. Rydym yn aros i glywed am setliad ffi’r drwydded. Am y tro cyntaf, bu’r BBC yn gwbl agored â’r cyhoedd ynghylch cais ffi’r drwydded. Roedd ei faint yn seiliedig ar gynllun busnes wedi’i gostio’n llawn adeg ei gyhoeddi, a oedd yn adlewyrchu cynllun y Llywodraeth ar gyfer y BBC a nodwyd ym Mhapur Gwyrdd y 2 BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 llynedd.Yn ystod y trafodaethau dilynol gyda’r Llywodraeth, mae’r BBC wedi datgan mai ei brif flaenoriaeth yw gallu diwallu anghenion a disgwyliadau talwyr ffi’r drwydded ar y gost isaf posibl. Ni ddylid ystyried y broses o sicrhau’r setliad uchaf posibl fel ffordd o ennill bathodyn anrhydedd i’r rheini sy’n cynrychioli talwyr ffi’r drwydded ar Fwrdd y BBC. Canolbwyntiodd llawer o’n gwaith fel Llywodraethwyr eleni ar newid ariannol a sefydliadol wrth baratoi ar gyfer y Siarter newydd. O ganlyniad, rwyf yn hyderus bod y BBC mewn sefyllfa dda yn strwythurol i ddechrau ar gam nesaf ei ddatblygiad. Ar ddiwedd cyfnod y Siarter bresennol, bydd y BBC wedi bodloni ei ymrwymiad i gyflawni sefyllfa fras o ddim dyledion. Mae'r gwaith o gyflawni'r targed hunan-help o £3.3biliwn a osodwyd gan y llywodraeth ar gyfer cyfnod y Siarter bresennol ar y trywydd iawn a bydd yn rhagori arno. A rhagorwyd ar darged arbedion gwerth am arian ychwanegol y Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer 2005/2006, gan roi mwy o sicrwydd y caiff ei darged cyffredinol o gyflawni arbedion blynyddol crynswth parhaus o £355miliwn erbyn 2007/2008 ei gyrraedd. Yn yr adroddiad hwn, cyflwynwn asesiad gwrthrychol o berfformiad rheolwyr yn ystod y flwyddyn dan sylw. Lle mae angen gwneud mwy, nodwyd hynny gennym. Ond mae’r darlun cyffredinol yn galonogol. Mae cyrhaeddiad cyffredinol gwasanaethau teledu a radio’r BBC yn gymharol sefydlog ar lefel o 92.7%, ac mae cyrhaeddiad gwasanaethau ar-lein y BBC yn parhau i gynyddu’n gyflym. Mewn cyd-destun cynyddol gystadleuol, lle y mae gan gynulleidfaoedd lawer mwy o ddewis, mae hyn yn gyflawniad gwirioneddol. Ac mae’r cyflawniad hwn yn uwch gan nad yw’n adlewyrchu unrhyw ostyngiad o ran ansawdd – yn wir, i’r gwrthwyneb. Gall y BBC ymfalchïo yn ansawdd cynyddol ei ddarllediadau cyffredinol eleni – barn a adlewyrchir yn y llu o wobrau a enillwyd ganddo. Cyflawnwyd y perfformiad hwn yn erbyn cefndir o bryder dealladwy ymysg y staff o ran y diswyddiadau a’r newidiadau i arferion gwaith yn deillio o raglen gwerth am arian y Cyfarwyddwr Cyffredinol, a gynlluniwyd i ryddhau cyllid i’w fuddsoddi mewn mwy o gynyrchiadau o ansawdd uwch. Fe’i cyflawnwyd hefyd yng nghyd-destun proses gynhwysfawr – a blinderus weithiau – yr Arolwg o’r Siarter. Ond nid yw’r darlun yn gwbl gadarnhaol. Un mater a gaiff ei godi dro ar ôl tro yn ein hymgynghoriadau â chynulleidfaoedd ledled y DU eleni yw’r broblem sy’n gysylltiedig â chwmpas cyfyngedig gwasanaethau digidol. Mae talwyr ffi’r drwydded yr effeithir arnynt wedi mynegi anfodlonrwydd cyfiawn nad ydynt yn gallu derbyn y gwasanaethau er eu bod yn cyfrannu at gost darllediadau digidol y BBC. Rydym wedi annog y rheolwyr i gyflymu eu cynlluniau – gan weithio gyda phartneriaid masnachol – i ddatblygu fersiwn loeren gyfatebol o Freeview a fyddai’n datrys y problemau hyn. Rwyf yn falch mai fi yw Cadeirydd olaf y Llywodraethwyr ac fy mod wedi cael fy mhenodi fel Cadeirydd cyntaf yr Ymddiriedolaeth newydd. Mae cydnabyddiaeth fod llwyddiant parhaus BBC a ariennir gan ffi’r drwydded yn dibynnu nid yn unig ar ddamcaniaeth economaidd neu ddogma wleidyddol ond ar allu’r BBC i gadw cefnogaeth mwyafrif helaeth pobl y DU drwy’r cynnwys a’r gwasanaethau a gynigir ganddo wrth wraidd fy ngweledigaeth i’r BBC. Gall y cynnwys a’r gwasanaethau hyn fod ar sawl ffurf wrth i’r BBC gyflawni ei gylch gwaith cyhoeddus hanesyddol i hysbysu, addysgu a diddanu. Ond rhaid iddynt oll rannu’r uchelgais o bennu safonau ansawdd newydd, waeth beth fo’r genre neu’r dull dosbarthu. Yn gynharach eleni, cymerais ran yng ngwasanaeth coffa Ronnie Barker, yr oedd ei yrfa hir gyda’r BBC yn enghraifft wych o hyn. Mae’r rhestr o’i lwyddiannau gyda’r BBC yn anhygoel: The Navy Lark, The Frost Report, The Two Ronnies, Porridge, Open All Hours – mae’r rhain ymhlith cyflawniadau gorau comedi’r BBC.Yn ogystal ag actor comig gwych, roedd Ronnie Barker yn awdur talentog iawn. Roedd yn ddyn diymhongar, ac hyd yn oed fel seren sefydledig, byddai weithiau’n cyflwyno sgriptiau i’r BBC o dan ffug enw – dywedodd ei fod am sicrhau eu bod yn cael eu derbyn oherwydd eu hansawdd, yn hytrach nag enw eu hawdur. Profodd cyfraniad Ronnie Barker i’r BBC y tu hwnt i bob amheuaeth y gall ansawdd a phoblogrwydd gyd-fodoli. Er mwyn i’r BBC sicrhau cefnogaeth barhaus talwyr ffi’r drwydded dros y deng mlynedd nesaf, bydd angen iddo gofio mai dyma sy’n gwneud darllediadau’r BBC yn arbennig. Michael Grade Cadeirydd 14 Mehefin 2006 BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 3 Adroddiad y Cyfarwyddwr Cyffredinol Mae’r BBC yn byw rhwng dau fyd: byd darlledu radio a theledu traddodiadol a byd newydd a chyffrous y cyfryngau digidol.Yr her sy’n ein hwynebu yw taro’r cydbwysedd cywir o ran adnoddau ac egni creadigol rhwng y ddau fyd hyn a chyflwyno newidiadau ar gyflymder addas. Os symudwn yn rhy gyflym, gallem fethu â darparu gwasanaeth digonol i’r miliynau o dalwyr ffi’r drwydded sy’n parhau i ddibynnu arnom ni fel y dewis cyntaf am deledu a radio eithriadol. Ond os symudwn yn rhy araf, gallem syrthio ar ei hôl hi a cholli cysylltiad yn llwyr â rhai o’n cynulleidfaoedd. Roedd 2005/2006 yn flwyddyn lle y datblygodd y chwyldro digidol ymhellach eto. Fis ar ôl mis, cyrhaeddodd gwefan y BBC lefelau cyrhaeddiad uwch nag erioed. Bellach ceir dros dri biliwn o ymweliadau â thudalennau bob mis. Ffrydio byw, lawrlwytho, pod-ddarlledu…croesawodd y cyhoedd bob technoleg newydd a phob arbrawf newydd – nid er mwyn y dechnoleg ei hun, ond fel ffordd newydd o dderbyn cynnwys eithriadol y BBC. Ar 7 Gorffennaf 2005, adroddwyd hanes poen a dewrder Llundain mewn ffordd glodwiw ar draws gwasanaethau’r BBC, o BBC London 94.9 a Radio Five Live i BBC News 24 a’r Ten O’Clock News. Ond cyflwynodd 7 Gorffennaf uchafbwynt newydd i bbc.co.uk yn gyffredinol ac o ran cynnwys clyweledol cyfoethog – gyda sain a lluniau yn cael eu ffrydio’n fyw i ddefnyddwyr y rhyngrwyd.Yn ddiddorol, nid adroddiadau proffesiynol y BBC ei hun a ddenodd y cyhoedd fwyaf y diwrnod hwnnw ond delweddau sigledig o dwneli’r tiwb a bws wedi’i ddinistrio a dynnwyd gan ddefnyddio ffonau symudol. Arferai newyddiaduraeth y BBC fod yn ddull cyfathrebu un ffordd yn bennaf. Nawr gall llygaid dystion lwytho eu tystiolaeth o fewn eiliadau a gall blogwyr dywys unrhyw ddadl genedlaethol neu fyd-eang ymhell y tu hwnt i’r stiwdio radio neu deledu. BBC Newyddion yw’r darparwr newyddion mwyaf poblogaidd yr ymddiriedir ynddo fwyaf yn y DU o hyd a ledled y byd – drwy BBC World Service, bbc.co.uk a BBC World. Mae bellach yn cyrraedd dros 250 miliwn o bobl bob wythnos. Ond mae technoleg a disgwyliadau’r gynulleidfa yn newid rheolau’r gêm o wythnos i wythnos. Dyna pam, er gwaethaf pwysau cyson digwyddiadau – Etholiad Cyffredinol, y daeargryn ofnadwy yn Pacistan, y ddrama barhaus yn Irac ac yn y blaen – y cymerodd llawer o’n golygyddion a’n newyddiadurwyr amser yn 2005/2006 i roi ystyriaeth ddwys i ddyfodol BBC Newyddion. Ffurfiodd eu casgliadau ran o’r hyn a alwyd gennym yn Ddyfodol Creadigol, ymgais i bennu cyfeiriad i bob un o’n prif feysydd cynnwys dros y pum mlynedd nesaf. Mae a wnelo Dyfodol Creadigol i raddau helaeth â thechnoleg a’i heffaith greadigol: er enghraifft, yr angen i gomisiynwyr ystyried prosiectau ar draws teledu, radio a’r we, i archwilio cynnwys a gynhyrchir gan y defnyddiwr, i ystyried sut y dylai gwasanaethau yn ôl y galw effeithio ar yr hyn a wnawn a’r ffordd o’i wneud. Ond fe’n hatgoffodd hefyd mai’r hyn sydd bwysicaf i gynulleidfaoedd yw uchelgais creadigol a chywirdeb.Technoleg yw’r cyfrwng o gyflawni’r nod: i’r BBC, y nod bob amser fydd ansawdd y cynnwys ei hun. Roedd digon o raglenni ar deledu’r BBC eleni a ddangosodd yr hyn y gallwn ei gyflawni wrth gyfuno arloesedd â thalent ac argyhoeddiad. Roedd Bleak House yn ffenomenon, addasiad o waith Dickens gyda chymaint o ddyfnder ag unrhyw addasiad o’r fath a wnaed erioed gan y BBC, ond fe’i hystyriwyd fel rhaglen gyfresol feiddgar, cyfoes ei naws a enillodd ei phlwyf fel rhan o amserlen ganol wythnos BBC One 4 BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 gydag EastEnders, a oedd ei hun yn cael adfywiad creadigol. Ac roedd y rhain yn ddim ond dau uchafbwynt yn y flwyddyn gryfaf a gafodd drama teledu’r BBC ers mwy na degawd, a oedd yn cynnwys To The Ends of The Earth, Bodies, Life on Mars, ShakespeaRe-Told, a Dr Who gyda Doctor newydd gwych. Er gwaethaf cyfres arloesol a chyffrous arall o Little Britain, prin fu’r comedi newydd llwyddiannus ar BBC One, er y bu ymdeimlad gwirioneddol o dalent newydd a syniadau newydd ar y teledu: roedd The Catherine Tate Show, Extras, Still Game gan BBC Scotland a The Thick Of It yn llwyddiannau amlwg mewn blwyddyn gref ar BBC Two, BBC Three a BBC Four. O Jonathan Ross i Strictly Come Dancing, parhaodd adloniant yn gryf ar BBC One, a pharhaodd sioeau panel BBC Two fel QI a fformatau adloniant ffeithiol fel The Apprentice i fynd o nerth i nerth. O blith ein gwasanaethau digidol, ffynnodd BBC Four yn arbennig yn ystod 2005/2006, gan ddarganfod cymysgedd ehangach, mwy mentrus o raglenni gyda drama a chomedi yn ategu ei phrif arlwy o raglenni dogfen a diwylliant. Roedd darllediadau ffeithiol yn gryf ar draws y BBC. Roedd Planet Earth yn gyfuniad ardderchog arall o arloesedd technegol a chelfyddyd weledol a naratif o’r radd flaenaf. Roedd rhaglen dwy ran Arena am Bob Dylan yn ystod ei ieuenctid, No Direction Home,a Facing the Truth gan BBC Northern Ireland, a ddaeth â’r rheini a fu’n rhan o wrthdaro’r trafferthion ynghyd, yn uchafbwyntiau o blith arlwy o raglenni dogfen pwerus ac amrywiol. O blith holl wasanaethau’r BBC, gan Radio 1, i raddau, y mae’r genhadaeth anos: ceisio cynnig rhaglenni arbennig a gwerthfawr i un o rannau prysuraf y farchnad ddarlledu – ac i gynulleidfa fwyaf craff a heriol y DU, mewn sawl ffordd. Bu strategaeth newydd yr orsaf o gymorth iddi deimlo’n fwy hyderus ac yn fwy perthnasol yn 2005/2006.Atgyfnerthodd Radio 2 ei statws fel gorsaf radio fwyaf poblogaidd y wlad, ac adeiladodd Radio 3 ar lwyddiant The Beethoven Experience gan gyflwyno A Bach Christmas. Hanes Angylion Brixton – carcharorion un o garchardai caletaf Prydain a ddaeth ynghyd i ganu Bach – oedd un o ddarllediadau mwyaf teimladwy’r flwyddyn. Yn y cyfamser, llwyddodd Radio 4 i arbrofi â dadleuon mwy cyfoes a drama fwy nodedig a phroffil uchel.Wrth benderfynu cael gwared ar ei chadwyn o themâu o’r DU ddechrau’r bore, ysgogodd yr orsaf glasur o anghydfod i’r BBC wrth i newid a ymddangosai’n ddibwys ddod i gynrychioli rhywbeth llawer mwy a phwysicach i’r gwrandawyr. Ar ôl myfyrio gofalus, penderfynodd tîm Radio 4 barhau â’u penderfyniad gwreiddiol, ac yn fy marn i, roeddent yn llygad eu lle yn gwneud hynny. Ond roedd gwers bwysig i’r BBC: ni allwch obeithio plesio pawb drwy’r amser, ond – yn arbennig ar adeg lle y mae ganddynt gymaint o ddewis – ni ddylai’r BBC byth gymryd ei gynulleidfa’n ganiataol. Parhaodd ein gwasanaethau radio digidol i gryfhau eu cydberthnasau â gwrandawyr, a chafwyd cynnwys cryf ac arloesol yn ein darllediadau chwaraeon a’n harlwy i blant, yn ogystal â chan ein gwasanaethau cenedlaethol a rhanbarthol. Lansiwyd gwasanaethau newydd hefyd: mae modiwlau cyntaf y Cwricwlwm Digidol (a elwir bellach yn BBC jam) yn cael ymateb cadarnhaol iawn gan fyfyrwyr ac athrawon fel ei gilydd, ac yn ystod y deufis diwethaf dechreuwyd cynllun peilot ar gyfer gwasanaeth teledu BBC diffiniad uchel gennym – y cynllun cyntaf o’i fath ym myd darlledu, a ffordd arall o geisio gwella’r ansawdd a gaiff y cyhoedd gan y BBC. Roedd hefyd yn flwyddyn lle y cyrhaeddodd y ddadl ynghylch dyfodol y BBC uchafbwynt gyda’r llywodraeth yn cyhoeddi ei Phapur Gwyn. Cyflwynir darlun o BBC cryf, ond nid un sy’n bodoli ar wahân i weddill y farchnad. Er gwaethaf y darlun y mae rhai o gystadleuwyr y BBC yn hoffi ei awgrymu, gwelwn ddyfodol gyda statws amlycach i bartneriaethau – gyda chyrff cyhoeddus eraill, gyda chynhyrchwyr annibynnol, gyda darlledwyr cyhoeddus eraill a chyda’n cynulleidfaoedd. Mae’r gydberthynas newydd gyda PACT a’r memoranda o gyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd gydag amrywiol gyrff dros y flwyddyn ddiwethaf yn arwydd o’r ymagwedd newydd hon. Er y gall y BBC ymfalchïo yn ei berfformiad i raddau helaeth yn 2005/2006, ni allwn orffwys ar ein rhwyfau a llongyfarch ein hunain. Mae cynulleidfaoedd yn ein hannog i ddatblygu: yn briodol, maent yn codi eu safonau yn gyson. Mae gennym Ddyfodol Creadigol i’w roi ar waith, y newid i ddigidol i’w dywys, ac mae gennym newidiadau i’n systemau rheoli ein hunain wrth ymateb i’r penderfyniad i gyflwyno Ymddiriedolaeth newydd y BBC. Rydym newydd wynebu un o’r blynyddoedd prysuraf yn ein hanes. Ond mewn sawl ffordd, megis dechrau y mae’r her go iawn. Mark Thompson Cyfarwyddwr Cyffredinol 14 Mehefin 2006 BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 5 Y BBC nawr ac yn y dyfodol Trosolwg Mae’r Siarter Frenhinol ddrafft yn arwydd o newidiadau pellgyrhaeddol yn y BBC. Mae gan Ymddiriedolaeth newydd y BBC a fydd yn disodli’r Llywodraethwyr ddyletswydd benodol i gynrychioli buddiannau talwyr ffi’r drwydded. O ganlyniad, bydd rhaniad llawer amlycach rhwng y rheini sy’n gyfrifol am oruchwylio’r BBC a’r rheini sy’n gyfrifol am gyflwyno ei wasanaethau. Mae newid arwyddocaol arall yn golygu, am y tro cyntaf, y bydd y Siarter newydd yn cynnwys diffiniad o bwrpasau cyhoeddus y BBC, sef:  Cynnal dinasyddiaeth a chymdeithas waraidd  Hyrwyddo addysg a dysgu  Ysgogi creadigrwydd a rhagoriaeth ddiwylliannol  Cynrychioli’r DU, ei gwledydd, ei rhanbarthau a’i chymunedau  Cyflwyno’r byd i’r DU a’r DU i’r byd  Adeiladu Prydain ddigidol (gan helpu i gyflwyno buddiannau technolegau a gwasanaethau cyfathrebu newydd a chwarae rhan flaenllaw yn y broses o newid i deledu digidol) Fodd bynnag, erys ambell beth, fel y ffordd y caiff y BBC ei ariannu drwy ffi’r drwydded, yr un peth. Mae’r adran hon yn amlinellu’r trefniadau presennol a’r newidiadau arfaethedig. 6 BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 Ffi’r drwydded Talwyr ffi’r drwydded sy’n darparu’r rhan fwyaf o’r arian a gaiff ei wario gan y BBC – gan gynnwys consesiynau, mae 25 miliwn ohonynt – a bydd y strwythur llywodraethu newydd (gweler isod) yn atgyfnerthu dylanwad talwyr ffi’r drwydded wrth bennu cyfeiriad i’r BBC yn sylweddol. Pennir lefel ffi’r drwydded gan y Llywodraeth. Y Senedd Mae’r Senedd yn gyfrifol am graffu ar faterion y BBC drwy ddadleuon a gynhelir yn y ddau Dy a thrwy wrandawiadau pwyllgorau dethol, lle y gofynnir i Lywodraethwyr y BBC – Ymddiriedolwyr y BBC yn y dyfodol – ac aelodau o blith rheolwyr y BBC roi cyfrif am berfformiad y BBC. Bu’r Senedd yn craffu ar y broses o adnewyddu’r Siarter drwy gydol y broses. Y Siarter Frenhinol Ymgorfforir y BBC gan Siarter Frenhinol sy’n nodi amcanion a chyfansoddiad y BBC. Mae Cytundeb ategol yn nodi ei rwymedigaethau yn fanylach. Daw’r Siarter Frenhinol a’r Cytundeb presennol i ben ddiwedd 2006. Bydd y Siarter a’r Cytundeb newydd yn weithredol am ddeng mlynedd hyd ddiwedd 2016 a bydd cyllid ffi’r drwydded hefyd yn parhau am y cyfnod hwnnw. Mae’r Siarter newydd yn rhoi cydnabyddiaeth amlwg i annibyniaeth y BBC. Llywodraethu’r BBC Mae’r Siarter a’r Cytundeb newydd drafft yn gosod newidiadau radical ar y ffordd y caiff y BBC ei lywodraethu. O dan y Siarter bresennol, mae gan y BBC ddeuddeg Llywodraethwr, a benodwyd gan y Frenhines yn dilyn cyngor gweinidogion yn unol ag egwyddorion Nolan sy’n nodi y dylid gwneud penodiadau cyhoeddus ar sail teilyngdod. Maent oll yn rhan amser. Daw’r Llywodraethwyr ag ystod eang o brofiad ac arbenigedd i Fwrdd y BBC. Mae Llywodraethwyr cenedlaethol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cadeirio Cynghorau Darlledu, ac mae’r Llywodraethwr sydd â chyfrifoldeb arbennig dros Ranbarthau Lloegr yn cadeirio Fforwm Cenedlaethol Lloegr. Caiff safbwyntiau pobl yn y gwledydd a’r rhanbarthau ar raglenni a gwasanaethau’r BBC eu lleisio drwy’r cyrff hyn. Mae Grwp Ymgynghori World Service a Global News yn rhoi arolwg annibynnol o amrywiaeth ac ansawdd cynyrchiadau BBC World Service a BBC World i’r Llywodraethwyr. O dan y Siarter newydd, caiff Bwrdd y Llywodraethwyr ei ddisodli gan Ymddiriedolaeth y BBC a chaiff Bwrdd Gweithredol newydd ei sefydlu’n ffurfiol, y caiff ei rôl a’i gyfrifoldebau eu diffinio yn y Siarter. Bydd rhaniad amlwg rhwng swyddogaethau’r ddau gorff gyda’r Bwrdd Gweithredol yn derbyn cyfrifoldeb gweithredol. Bydd yr Ymddiriedolaeth, fel y corff sy’n gyfrifol am gyfeiriad strategol y BBC, yn craffu ar y strategaethau a gyflwynir gan y Bwrdd Gweithredol. Bydd yr Ymddiriedolaeth yn pennu Cylchoedd Gwaith Pwrpas, ac yn cyhoeddi Trwyddedau Gwasanaeth (gweler tudalen 9) ac yn dal y Bwrdd Gweithredol i gyfrif am ei berfformiad wrth gyflwyno gwasanaethau’r BBC yn erbyn telerau ac amodau’r dogfennau hyn. Ymddiriedolaeth y BBC Ymddiriedolaeth y BBC fydd yn bennaf cyfrifol am ffi’r drwydded. Bydd yn gweithredu er budd y cyhoedd, yn cynrychioli safbwyntiau talwyr ffi’r drwydded, yn diogelu annibyniaeth y BBC ac yn sicrhau bod y BBC yn cyflawni ei ddibenion cyhoeddus arbennig. Bydd yr Ymddiriedolwyr yn cymeradwyo neu’n gwrthod strategaethau cyffredinol y BBC, yn pennu cyllidebau blynyddol lefel uchel, ac yn asesu perfformiad Bwrdd Gweithredol y BBC ac yn ei ddal i gyfrif. Bydd yr Ymddiriedolwyr yn cyflwyno Trwyddedau Gwasanaeth yn nodi cylch gwaith a chyllideb pob un o wasanaethau’r BBC a byddant yn comisiynu Profion Gwerth Cyhoeddus (gweler tudalen 9) pan fydd y Bwrdd Gweithredol yn cynnig newidiadau arwyddocaol i wasanaethau presennol neu gyflwyno gwasanaethau newydd. Bydd deuddeg o Ymddiriedolwyr, a benodir gan y Frenhines yn dilyn cyngor gweinidogion yn unol ag egwyddorion Nolan. Bydd yr Ymddiriedolwyr yn cynnwys aelodau a fydd yn gweithredu’n benodol er budd Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, wedi’u cynorthwyo gan Gynghorau Cynulleidfa. Disgwylir i’r Ymddiriedolaeth fod yn agored ac yn dryloyw ym mhopeth a wna, ac i geisio barn talwyr ffi’r drwydded ac ymgynghori â hwy. Ategir ei hannibyniaeth gan Uned yr Ymddiriedolaeth a fydd yn gweithredu ar sail llawn amser ac a fydd yn seiliedig ar yr Uned Lywodraethu bresennol (gweler tudalen 8). Mae Ofcom, sef y rheoleiddiwr cyfathrebu, eisoes yn rheoleiddio rhai agweddau ar y BBC a bydd yn parhau i wneud hynny. Er enghraifft, mae’r BBC yn cydymffurfio â safonau a chodau tegwch Ofcom (ac eithrio ar gyfer cywirdeb a natur ddiduedd briodol sy’n parhau i fod yn fater i’r Llywodraethwyr – ac i’r Ymddiriedolwyr yn y dyfodol). O dan y Siarter newydd, Ofcom fydd yn cynnal yr Asesiadau i’r Effaith ar y Farchnad pan fydd yr Ymddiriedolaeth yn comisiynu Profion Gwerth Cyhoeddus. BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 7 Y BBC nawr ac yn y dyfodol Uned Lywodraethu’r BBC Mae’r Uned Lywodraethu yn cefnogi gwaith Bwrdd y Llywodraethwyr, gan roi cyngor annibynnol a gwrthrychol iddo. Bydd yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth hwn i Ymddiriedolaeth y BBC, o dan yr enw newydd Uned yr Ymddiriedolaeth. Mae’r Uned yn annibynnol ar reolwyr y BBC. Caiff ei chyfarwyddwr ei benodi gan Fwrdd y Llywodraethwyr – gan Ymddiriedolaeth y BBC yn y dyfodol – ac nid yw staff yr Uned yn rhan o gadwyn reoli’r BBC. Mae’r Uned yn darparu cymorth ar draws amrywiaeth o weithgarwch y BBC gan gynnwys atebolrwydd i gynulleidfaoedd, goruchwylio perfformiad, craffu ariannol, cydymffurfiad, a chwynion ac apeliadau – boed yn rhai golygyddol neu fasnachu teg. Yn ogystal, mae’r Uned yn defnyddio cynghorwyr allanol ar gyfer prosiectau penodol. Er enghraifft, yn ystod 2005/2006, cynhaliodd cynghorwyr annibynnol arolwg o ddarllediadau o’r gwrthdaro rhwng yr Israeliaid a’r Palestiniaid, a chafwyd cyngor gan gyfrifwyr o PA Consulting ar y cynnydd a wnaed o ran mesurau effeithlonrwydd rheolwyr y BBC. Buont hefyd yn craffu ar gais ffi’r drwydded y BBC cyn iddo gael ei gymeradwyo gan y Bwrdd. Mae gan yr Uned Lywodraethu 33 aelod o staff.Yn 2005/2006, cyfanswm cost yr Uned Lywodraethu oedd £8.3miliwn (£8.4miliwn yn 2004/2005). Roedd hyn yn cynnwys £1.3miliwn ar gyfer y cynghorau ymgynghorol cenedlaethol a rhanbarthol (£1.2miliwn yn 2004/2005). Mae’r Cyfarwyddwr Llywodraethu wrthi ar hyn o bryd yn adolygu cyllideb ac adnoddau’r Uned yn erbyn cyfrifoldebau Ymddiriedolaeth newydd y BBC. Bwrdd Gweithredol O dan y Siarter bresennol, caiff gweithrediadau’r BBC eu rheoli gan Fwrdd Gweithredol sy’n cynnwys cyfarwyddwyr gweithredol y BBC. Fe’i cadeirir gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol, sef prif weithredwr a phrif olygydd y BBC. Mae’r Bwrdd Gweithredol yn atebol i Fwrdd y Llywodraethwyr, sy’n penodi’r Cyfarwyddwr Cyffredinol. O dan y Siarter newydd, caiff y Bwrdd Gweithredol ei ailgyfansoddi a’i atgyfnerthu drwy benodi lleiafrif sylweddol o gyfarwyddwyr anweithredol, a gaiff eu henwebu gan y Bwrdd a’u cymeradwyo gan yr Ymddiriedolaeth.Eu rôl fydd cynorthwyo’r Bwrdd Gweithredol fel ‘cyfeillion beirniadol’ gan gyflwyno persbectif ac arbenigedd allanol i’w waith. Bydd y Bwrdd Gweithredol yn gyfrifol am gyflwyno ei wasanaethau, cyfeiriad allbwn creadigol a golygyddol, rheolaeth weithredol y BBC, a chyflwyno gwerth am arian. BBC Caiff holl gynyrchiadau’r BBC eu cynhyrchu neu eu comisiynu gan 14 o is-adrannau’r BBC. Ceir naw is-adran ddarlledu. Maent yn rheoli rhwydweithiau’r BBC a’r broses o gomisiynu a chynhyrchu eu rhaglenni. Mae’r is-adrannau hyn fel a ganlyn:  Teledu  Radio a Cherddoriaeth  Newyddion  Y Gwledydd a’r Rhanbarthau  Chwaraeon  Ffeithiol a Dysgu  Drama, Adloniant a Phlant  Cyfryngau Newydd a Thechnoleg  Global News (gan gynnwys BBC World Service a BBC World) Yn ogystal, ceir pum is-adran sy’n darparu cymorth proffesiynol, sef:  BBC People  Cyllid  Marchnata, Cyfathrebu a Chynulleidfaoedd  Strategaeth  Gweithrediadau Mae is-gwmnïau masnachol y BBC – sy’n gwerthu nwyddau a gwasanaethau ledled y byd er mwyn manteisio i’r eithaf ar fuddsoddiad ffi’r drwydded – yn perthyn i gwmni ymbarél, sef BBC Commercial Holdings Limited:  BBC Worldwide Limited  BBC Resources Limited  BBC World Limited Caiff yr elw a wneir gan yr is-gwmnïau hyn ei ddychwelyd i’r BBC er mwyn buddsoddi ym maes gwneud rhaglenni. Teledu, radio, ar-lein Ledled y DU, mae’r BBC yn gweithredu wyth sianel deledu a deg rhwydwaith radio, 46 o orsafoedd radio lleol a chenedlaethol, a’r gwasanaethau rhyngweithiol bbc.co.uk a BBCi. Yn rhyngwladol, mae BBC World Service yn darlledu ar y radio mewn 33 o ieithoedd; mae BBC World yn darparu gwasanaeth newyddion teledu byd-eang; ac mae’r safle ar-lein bbcnews.com yn cynnig newyddion a sain i gynulleidfaoedd rhyngwladol. Mae BBC Worldwide hefyd yn gweithredu portffolio o sianelau teledu masnachol mewn marchnadoedd rhyngwladol, gyda rhai ohonynt o dan frand y BBC a rhai ohonynt yn cael eu gweithredu fel cyd-fentrau gyda darlledwyr eraill. Nid ariennir y gwasanaethau hyn gan ffi’r drwydded ond telir amdanynt naill ai gan Gymorth Grant gan y Llywodraeth neu drwy hysbysebion. Yn ogystal â gwasanaethau darlledu ac ar-lein, mae’r BBC yn gweithio yn y gymuned mewn sawl ffordd wahanol gan gynnwys apêl Plant mewn Angen y BBC sy’n codi llawer o arian i helpu plant difreintiedig yn y DU. 8 BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 Cyflawni pwrpasau cyhoeddus y BBC BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 9 Cylchoedd Gwaith Pwrpas Ar gyfer chwe phwrpas cyhoeddus y BBC (gweler tudalen 6), bydd yr Ymddiriedolaeth yn cyhoeddi Cylch Gwaith Pwrpas yn nodi blaenoriaethau uchel ar gyfer y BBC cyfan ar gyfer cyflawni’r pwrpasau a sut y caiff llwyddiant ei fesur.Wrth ddatblygu’r cylchoedd gwaith hyn bydd yr Ymddiriedolaeth yn ymgynghori â’r cyhoedd. Trwyddedau Gwasanaeth Bydd yr Ymddiriedolaeth hefyd yn cyflwyno Trwyddedau Gwasanaeth yn nodi manylion cyllideb a chylch gwaith pob un o wasanaethau’r BBC, sut y maent yn cyfrannu at gyflawni pwrpasau cyhoeddus y BBC, a sut y dylid mesur perfformiad. Caiff yr holl drwyddedau eu cyhoeddi. Fframwaith mesur perfformiad Er mwyn sicrhau y caiff gwasanaethau’r BBC eu cyflwyno yn unol â chylchoedd gwaith a thrwyddedau gwasanaeth, datblygwyd fframwaith mesur perfformiad newydd. Mae’n seiliedig yn rhannol ar fesur canfyddiadau talwyr ffi’r drwydded ac yn rhannol ar fesuriadau empiraidd o ddata ariannol a chynulleidfa.Y nod yw cyflawni asesiadau sy’n wrthrychol, yn drwyadl ac yn dryloyw, gan ystyried pedwar ffactor: cyrhaeddiad, ansawdd, effaith a gwerth am arian.  Mesur o ddefnydd yw cyrhaeddiad. Mae’n cofnodi canran y boblogaeth sy’n gwylio, gwrando ar neu ddefnyddio gwasanaeth am amser penodol dros gyfnod penodol (15 munud dros gyfnod o wythnos fel arfer ar gyfer y BBC). Mae cyrhaeddiad yn wahanol i’r ffordd draddodiadol o fesur cynulleidfa: cyfran. Cyfran yw canran cyfanswm y gynulleidfa sy’n gwylio neu’n gwrando ar sianel neu wasanaeth penodol dros gyfnod penodol o amser. Fodd bynnag, derbynnir yn gyffredinol bod cyrhaeddiad yn well mesur o gyffredinolrwydd ac felly ei fod yn fwy priodol i’r BBC, y bu cyffredinolrwydd (i bawb ac ar gael am ddim i bawb) bob amser yn un o’i egwyddorion allweddol.  Mae ansawdd yn fesur o ganfyddiad y gynulleidfa yn bennaf, ond mae hefyd yn cynnwys rhywfaint o ddata empiraidd. Caiff ei olrhain drwy arolygon sy’n cofnodi cyfran y gynulleidfa sydd o’r farn bod rhaglen neu wasanaeth penodol o “ansawdd uchel” ac yn cynnwys “syniadau ac ymagweddau newydd”. Mae asesiadau o ansawdd hefyd yn cynnwys mesurau empiraidd o ran gwreiddioldeb mewn perthynas â chyfran yr oriau sy’n newydd ac yn gynyrchiadau gwreiddiol a gynhyrchwyd yn y DU.  Mae effaith yn ffordd arall o fesur canfyddiad y gynulleidfa. Caiff ei olrhain drwy arolygon sy’n cofnodi cyfran y gynulleidfa sydd o’r farn bod rhaglen neu wasanaeth penodol yn “bleserus” ac yn “ysgogol”. Mae effaith yn anelu at fesur sut y mae cynyrchiadau’r BBC yn cyfoethogi bywydau unigolion a dinasyddion.  Asesiad ariannol empiraidd yw gwerth am arian yn bennaf. Caiff ei fesur mewn dwy ffordd. Un ffordd yw rhannu cyfanswm cost rhaglen neu gynhyrchiad arall â nifer y gwylwyr, gwrandawyr neu ddefnyddwyr i gynhyrchu cost fesul gwyliwr/gwrandäwr/defnyddiwr. Yr ail ffordd yw rhannu cyfanswm y gost â nifer yr oriau gwylio neu wrando i gynhyrchu cost fesul awr gwylio/gwrando.Ystyrir mesurau ehangach hefyd, megis canfyddiadau’r gynulleidfa o ba mor ddoeth y mae’r BBC wrth wario ffi’r drwydded. Dechreuwyd defnyddio’r fframwaith mesur perfformiad newydd yn ystod hydref 2004 ac mae’r gwaith o’i ddatblygu yn mynd rhagddo o hyd. Aseswyd y fframwaith gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn 2005. Pan ddaw r Siarter newydd i rym, bydd y fframwaith mesur newydd yn ffurfio sail ar gyfer Adroddiad Blynyddol y BBC. Prawf Gwerth Cyhoeddus Caiff Profion Gwerth Cyhoeddus eu cymhwyso gan yr Ymddiriedolaeth os bydd rheolwyr y BBC yn awyddus i gyflwyno gwasanaethau newydd neu wneud newidiadau arwyddocaol i wasanaethau presennol. Mae’r profion yn cydnabod er bod gwasanaethau’r BBC yn anelu at greu gwerth cyhoeddus cadarnhaol, y gallant hefyd gael effaith ar y farchnad. Bydd y profion yn asesu gwerth cyhoeddus cadarnhaol posibl y newid arfaethedig ac yn ei bwyso yn erbyn asesiad o’i effaith negyddol bosibl ar y farchnad. Dim ond os bydd y gwerth cyhoeddus posibl a grëir yn fwy na’r effaith negyddol bosibl ar y farchnad y bydd yr Ymddiriedolaeth yn caniatáu’r newid arfaethedig. Caiff yr asesiadau o’r effaith ar y farchnad eu cynnal gan Ofcom a’u goruchwylio gan gyd-grwp llywio gan gynnwys Ofcom ac Ymddiriedolaeth y BBC. Bydd yr Ymddiriedolaeth yn cyhoeddi’r dystiolaeth a’r rhesymeg sy’n sail i’w phenderfyniadau. Arolwg gwerth cyhoeddus Yn ogystal â monitro perfformiad yn rheolaidd, bydd Ymddiriedolaeth y BBC, bob tair i bum mlynedd, yn comisiynu arolwg annibynnol mawr yn cynnwys tua 10,000 o ymatebwyr. Bydd yr arolygon yn darparu dangosyddion gwerthfawr o dueddiadau ac anghenion pwysig. Bydd yr Ymddiriedolaeth yn cyhoeddi’r canlyniadau, ynghyd ag unrhyw gamau gweithredu y byddant yn dewis eu cymryd o ganlyniad i hynny. Bwrdd y Llywodraethwyr Mae Llywodraethwyr y BBC, wedi’u harwain gan Gadeirydd y BBC, yn cynrychioli budd y cyhoedd. Maent yn gyfrifol am ddal y rheolwyr i gyfrif a sicrhau annibyniaeth y BBC. Fe’u penodir gan y Frenhines ar gyngor gweinidogion yn unol ag egwyddorion Nolan y dylai penodiadau cyhoeddus gael eu gwneud ar sail teilyngdod. Mae’r Llywodraethwyr yn atebol i dalwyr ffi’r drwydded a’r Senedd. O dan Siarter newydd y BBC, sefydlir corff newydd, sef Ymddiriedolaeth y BBC, yn lle’r Llywodraethwyr (gweler tudalen 6,Y BBC nawr ac yn y dyfodol). 1 2 3 4 5 6 7 8 9 1210 11 10 BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 1 Michael Grade CBE Cadeirydd Cadeirydd y BBC ers mis Mai 2004 a Darpar Gadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC ers mis Mawrth 2005. Cadeirydd Pinewood Shepperton a Chadeirydd Hemscott Group, y ddau ers 2000, Cyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Charlton Athletic ers 1997. Cyn newyddiadurwr ac asiant theatrig.Yn LWT o 1973 i 1981, fel Cyfarwyddwr Rhaglenni ar ddiwedd y cyfnod hwnnw; Llywydd, Embassy Television yn Hollywood o 1981 i 1984; yn y BBC o 1984 i 1987, fel darpar Reolwr Gyfarwyddwr Teledu ar ddiwedd y cyfnod hwnnw; Prif Weithredwr Channel 4 o 1988 i 1997; yn First Leisure Corporation o 1997 i 2000, fel Prif Weithredwr ar ddiwedd y cyfnod hwnnw; Cadeirydd Camelot o 2002 i 2004; Cyfarwyddwr SMG o 2003 i 2004; yn y Gorfforaeth Deledu, fel Cadeirydd interim o 2003 i 2004. Gwobr Guild Harvey Lee y Wasg Ddarlledu am gyfraniad eithriadol i ddarlledu yn 1997. Cymrawd o’r RTS a BAFTA ac Is-Lywydd BAFTA ers mis Mehefin 2004. Ganed 1943. 2 Anthony Salz Dirprwy Gadeirydd Dirprwy Gadeirydd ers mis Awst 2004. Cadeirydd y Pwyllgor Cydymffurfio â Masnachu Teg; Cadeirydd y Pwyllgor Cydnabyddiaeth ac aelod o’r Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol. Cyd-uwch bartner y cwmni cyfreithwyr Freshfields Bruckhaus Deringer tan fis Ionawr 2006, gan barhau fel partner tan fis Ebrill 2006. Cadeirydd Grwp Ymgynghorol Corfforaethol Oriel Tate o 1997 i 2002 (gan barhau fel aelod o’r grwp hwnnw) ac un o ymddiriedolwyr Sefydliad Tate. Un o ymddiriedolwyr Prosiect Eden. Un o gyfarwyddwyr Habitat for Humanity GB. Un o ymddiriedolwyr Sefydliad Paul Hamlyn. Ganed 1950. 3 Deborah Bull CBE Llywodraethwr y BBC ers mis Awst 2003. Aelod o Bwyllgor Cwynion am Raglenni’r Llywodraethwyr a’r Pwyllgor Cydnabyddiaeth. Prif Ddawnsiwr y Balé Brenhinol o 1991 i 2001. Cyfarwyddwr, Menter Datblygu Artistiaid y Ty Opera Brenhinol o 1999 i 2001. Cyfarwyddwr Creadigol ROH2 ers 2002. Cyn aelod o Gyngor Celfyddydau Lloegr.Ysgrifennodd a chyflwynodd raglenni a chyfresi ar gyfer Teledu’r BBC a Radio’r BBC, gan gynnwys The Dancer’s Body yn 2002, a chyhoeddodd lyfrau yn ymwneud â’r celfyddydau a maeth. Ganed 1963. 4 Syr Andrew Burns KCMG Llywodraethwr Rhyngwladol y BBC ers mis Gorffennaf 2005. Aelod o’r Pwyllgor Archwilio. Cyfarwyddwr anweithredol J P Morgan Chines Investment Trust ers 2003 a Chadeirydd Cyngor Royal Holloway, Prifysgol Llundain ers 2004. Cyn ddiplomat – ymhlith y swyddi a ddaliwyd ganddo roedd Llysgennad i Israel 1992–1995, Dirprwy Is Ysgrifennydd Gwladol FCO 1995–1997, Cwnsler Cyffredinol Hong Kong a Macau 1997–2000, Uchel Gomisiynydd Canada 2000–2003. Llywydd Canada UK Colloquia a Chadeirydd Ymddiriedolaeth Gardd Hestercombe, y ddau ers 2004. Ganed 1943. 5 Y Farwnes Deech DBE (Ruth) Llywodraethwr y BBC ers mis Hydref 2002. Aelod o’r Pwyllgor Archwilio a’r Pwyllgor Cydymffurfio â Masnachu Teg. Dyfarnwr Annibynnol Addysg Uwch ers 2004. Pennaeth Coleg St Anne, Rhydychen o 1991 i 2004, ar ôl bod yn Gymrawd ac yn Diwtor y Gyfraith yno ers 1970. Meinciwr Anrhydeddus o’r Deml Fewnol,Ymddiriedolwr Mandela Rhodes, a Chymrawd y Gymdeithas Feddygaeth Frenhinol. Cyn Gadeirydd yr Awdurdod Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg. Ganed 1943. 6 Dermot Gleeson Llywodraethwr y BBC ers mis Tachwedd 2000 (ailbenodwyd ym mis Awst 2004) a Darpar Ymddiriedolwr y BBC. Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol; aelod o’r Pwyllgor Archwilio; Dirprwy Gadeirydd Ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn y BBC. Cadeirydd M J Gleeson Group plc. Cadeirydd Major Contractors Group o 2003 i 2005. Cyn gyfarwyddwr y Gorfforaeth Dai a Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu. Cyn Bennaeth Is-adran Materion Cartref Adran Ymchwil y Blaid Geidwadol ac aelod o gabinet Christopher Tugendhat yn y Comisiwn Ewropeaidd 1977 i 1979. Ganed 1949. 7 Yr Athro Merfyn Jones Llywodraethwr Cenedlaethol y BBC yng Nghymru ers mis Ionawr 2003. Aelod o’r Pwyllgor Cydymffurfio â Masnachu Teg, Pwyllgor Cwynion am Raglenni’r Llywodraethwyr a Phwyllgor y Cynghorau a’r Cyrff Ymgynghorol. Hanesydd a darlledwr. Athro Hanes Cymru ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, yn arbenigo ym maes hanes fodern a chyfoes cymdeithas a gwleidyddiaeth yng Nghymru. Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol ers 1998 ac Is-Ganghellor ers 2004. Awdur nifer o lyfrau ac erthyglau. Ganed 1948. 8 Yr Athro Fabian Monds CBE Llywodraethwr Cenedlaethol y BBC yng Ngogledd Iwerddon ers mis Awst 1999 (penodwyd am ail dymor o bedair blynedd o fis Gorffennaf 2003 ymlaen). Aelod o Bwyllgor Cwynion am Raglenni’r Llywodraethwyr, y Pwyllgor Cydymffurfio â Masnachu Teg a Phwyllgor y Cynghorau a’r Cyrff Ymgynghorol. Cadeirydd ymddiriedolwyr Plant mewn Angen y BBC. Arbenigwr mewn cyfathrebu, systemau gwybodaeth ac astudiaethau entrepreneuraidd. Cadeirydd Canolfan Trawma a Thrawsnewid Gogledd Iwerddon yn Omagh. Cyn Gadeirydd Invest Northern Ireland, a chyn Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Ulster. Ganed 1940. 9 Jeremy Peat Llywodraethwr Cenedlaethol y BBC yn yr Alban ers mis Ionawr 2005 a Darpar Ymddiriedolwr y BBC. Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, aelod o’r Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol a Phwyllgor y Cynghorau a’r Cyrff Ymgynghorol. Cadeirydd Ymddiriedolwyr Pensiwn y BBC. Aelod o banel y Comisiwn Cystadleuaeth a Chyfarwyddwr Athrofa David Hume. Cyn Brif Economydd Grwp Royal Bank of Scotland. Cyn gynghorydd economaidd i’r Trysorlys a Swyddfa’r Alban. Athro Ymweld Ysgol Reoli Prifysgol Caeredin; Athro Anrhydeddus Prifysgol Heriot Watt; Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin; aelod o Gyngor Cymdeithas Economaidd yr Alban. Ganed 1945. 10 Angela Sarkis CBE Llywodraethwr y BBC ers mis Hydref 2002. Aelod o Bwyllgor Cwynion am Raglenni’r Llywodraethwyr.Ymgynghorydd annibynnol; aelod o Gomisiwn Penodiadau Ty’r Arglwyddi, a Chynghorydd i’r Adran Addysg a Sgiliau ar reoli baich gwaith athrawon ac arweinyddiaeth ysgolion. Cyn gyfarwyddwr anweithredol Bwrdd Rheoli Troseddwyr Cenedlaethol y Swyddfa Gartref.Cyn Brif Weithredwr Cronfa Drefol yr Eglwysi a chyn Is-Lywydd y Gynghrair Efengylaidd Garibïaidd Affricanaidd. Cadeirydd, Prosiect Amrywiaeth NCVO ac aelod sylfaen yr Uned Allgáu Cymdeithasol. Cyn ymddiriedolwr Plant mewn Angen y BBC. Ganed 1955. 11 Ranjit Sondhi CBE Llywodraethwr y BBC ers mis Awst 1998 (penodwyd am ail dymor o bedair blynedd ym mis Awst 2002) gyda chyfrifoldeb arbennig dros Ranbarthau Lloegr. Cadeirydd Fforwm Cenedlaethol Lloegr a Phwyllgor y Cynghorau a’r Cyrff Ymgynghorol. Uwch Ddarlithydd yng Ngholeg Westhill, Prifysgol Birmingham. Un o ymddiriedolwyr yr Oriel Genedlaethol a Chadeirydd Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol Heart of Birmingham.Ymhlith ei swyddi blaenorol bu’n Ddirprwy Gadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol ac aelod o’r Awdurdod Darlledu Annibynnol a’r Awdurdod Radio. Ganed 1950. 12 Richard Tait CBE Llywodraethwr y BBC ers mis Awst 2004 a Darpar Ymddiriedolwr y BBC.Cadeirydd Pwyllgor Cwynion am Raglenni’r Llywodraethwyr. Athro Newyddiaduraeth a Chyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Newyddiaduraeth, Prifysgol Caerdydd. Cyn Brif Olygydd ITN a Golygydd, Channel 4 News.Yn y BBC, golygodd Newsnight, The Money Programme a rhaglen canlyniadau Etholiad Cyffredinol 1987. Is-Gadeirydd, Sefydliad y Wasg Ryngwladol; Cymrawd, Cymdeithas y Golygyddion a’r Gymdeithas Deledu Frenhinol. Ganed 1947. BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 11 Y Bwrdd Gweithredol Y Bwrdd Gweithredol sy’n rheoli gweithrediadau’r BBC. Fe’i cadeirir gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol. Mae’r Bwrdd Gweithredol yn atebol i Fwrdd y Llywodraethwyr sy’n penodi’r Cyfarwyddwr Cyffredinol. Cynorthwyir y Bwrdd Gweithredol gan dri is-grwp:y Grwp Cyfarwyddyd Gweithredol, y Bwrdd Newyddiaduraeth a’r Bwrdd Masnachol. O dan Siarter newydd y BBC, bydd lleiafrif sylweddol o gyfarwyddwyr anweithredol yn cael eu penodi i’r Bwrdd Gweithredol (gweler tudalen 6,Y BBC nawr ac yn y dyfodol). 1 2 3 4 5 6 7 8 9 12 BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 1 Mark Thompson Cyfarwyddwr Cyffredinol ers mis Mehefin 2004.Yn cadeirio’r Bwrdd Gweithredol a’r Grwp Cyfarwyddyd Gweithredol, sy’n cynnwys cyfarwyddwyr holl is-adrannau’r BBC. Cyn Brif Weithredwr, Channel 4 o 2002.Ymhlith ei swyddi blaenorol yn y BBC mae Cyfarwyddwr Teledu; Cyfarwyddwr Darlledu Cenedlaethol a Rhanbarthol;Rheolwr BBC Two;Pennaeth Rhaglenni Ffeithiol; Pennaeth Rhaglenni Nodwedd; Golygydd, Panorama, a Golygydd, Nine O’Clock News. 2 Mark Byford Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol ers mis Ionawr 2004. Cadeirydd y Bwrdd Newyddiaduraeth sy’n dod â holl newyddiaduraeth y BBC ar lefel ryngwladol, y DU, cenedlaethol, rhanbarthol a lleol ynghyd. Un o ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn y BBC.Ymhlith ei swyddi blaenorol yn y BBC mae Cyfarwyddwr, Global News a World Service; Cyfarwyddwr Darlledu Rhanbarthol; Pennaeth y Ganolfan, Leeds a Golygydd Cartref,Newyddion Teledu. 3 John Smith Prif Swyddog Gweithredu’r BBC ers mis Mehefin 2004, yn gyfrifol am holl is-gwmnïau masnachol ac adnoddau’r BBC, yn ogystal ag arwain ei strategaeth eiddo. O fis Mawrth 2005, bu hefyd yn Brif Swyddog Gweithredol BBC Worldwide Limited. Cyn Gyfarwyddwr Cyllid, Eiddo a Materion Busnes y BBC. Cyfarwyddwr Ariannol y Flwyddyn AccountancyAge yn 2001. Cyfarwyddwr anweithredol Severn Trent plc a Chadeirydd eu Pwyllgor Archwilio. Cyn hyn, bu gyda Grwp Rheilffyrdd Prydain, yn goruchwylio dadgyfuniadau. Aelod o’r Bwrdd Safonau Cyfrifyddu tan fis Tachwedd 2004. 4 Jenny Abramsky CBE Cyfarwyddwr Radio a Cherddoriaeth ers mis Ebrill 2000.Yn gyfrifol am BBC Radio 1, 2, 3, 4, Five Live, BBC Asian Network, BBC 6 Music, 1Xtra, Five Live Sports Extra, BBC 7, cerddoriaeth glasurol ar y teledu, Music Live, Proms y BBC a thair cerddorfa’r BBC a leolir yn Lloegr.Ymhlith ei swyddi blaenorol yn y BBC mae Cyfarwyddwr Newyddion Parhaus; Cyfarwyddwr Radio; Rheolwr, BBC Radio Five Live; Golygydd, Newyddion a Materion Cyfoes Radio, a Golygydd, Today. 5 Jana Bennett OBE Cyfarwyddwr Teledu ers mis Ebrill 2002.Yn gyfrifol am sianelau teledu’r BBC – BBC One, BBC Two,BBC Three a BBC Four;rhaglennu rhyngweithiol cysylltiedig; ac am oruchwylio cynnwys ar sianelau cyd-fenter UKTV a BBC America a BBC Prime.Ymhlith ei swyddi blaenorol mae Rheolwr Cyffredinol ac Is-Lywydd Gweithredol yn Discovery Communications Inc. yn UDA; Cyfarwyddwr Cynhyrchu yn y BBC; Pennaeth BBC Gwyddoniaeth; Golygydd, Horizon, ac Uwch Gynhyrchydd ar Newsnight a Panorama. 6 Tim Davie Cyfarwyddwr Marchnata, Cyfathrebu a Chynulleidfaoedd ers mis Ebrill 2005.Yn gyfrifol am holl weithgareddau marchnata, cyhoeddusrwydd, y wasg a chysylltiadau cyhoeddus, gwasanaethau cynulleidfaoedd a gweithgareddau ymchwil y BBC i gynulleidfaoedd.Ymddiriedolwr,Apêl Plant mewn Angen y BBC ers mis Medi 2005. Cyfarwyddwr Freeview a Digital UK. Bu’n gweithio i PepsiCo o 1993, yn fwyaf diweddar fel Is-Lywydd, Marchnata a Masnachfraint, PepsiCo Europe.Ymunodd ag adran farchnata Proctor & Gamble yn 1991. 7 Ashley Highfield Cyfarwyddwr Cyfryngau Newydd a Thechnoleg ers mis Hydref 2000.Yn gyfrifol am bbc.co.uk, gwasanaethau teledu rhyngweithiol, llwyfannau newydd (band eang, symudol, ac ati), portffolio technoleg y BBC, dyfeisgarwch technegol, ac ymchwil a datblygu. Cyn Reolwr Gyfarwyddwr Flextech Interactive, is-adran cyfryngau newydd y cwmni teledu tâl.Ymhlith ei swyddi blaenorol mae Pennaeth TG a Chyfryngau Newydd Sianelau NBC yn Ewrop. 8 Zarin Patel Cyfarwyddwr Cyllid y Grwp ers mis Ionawr 2005.Yn gyfrifol am strategaethau ariannol, gwaith cynllunio, gwaith rheoli, gweithgareddau sy’n ymwneud â llunio adroddiadau corfforaethol a chasglu ffi’r drwydded. Un o ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn y BBC.Ymhlith ei swyddi blaenorol gyda’r BBC, bu’n Bennaeth Rheoli Refeniw a Rheolydd Ariannol Grwp. Fe’i hyfforddwyd fel cyfrifydd siartredig gyda KPMG, lle treuliodd 15 mlynedd cyn ymuno â’r BBC yn 1998. Llywodraethwr, Prifysgol y Celfyddydau Llundain ac aelod o’i Phwyllgor Archwilio. 9 Caroline Thomson Cyfarwyddwr Strategaeth ers mis Ebrill 2005 gan ymgorffori ei chyfrifoldebau blaenorol fel Cyfarwyddwr Dros Dro, Strategaeth a Dosbarthu ers mis Rhagfyr 2004, a Chyfarwyddwr Polisi a Chyfreithiol (Polisi Cyhoeddus yn flaenorol) ers mis Mai 2000. Cyfarwyddwr Arweiniol Tasglu Adnewyddu’r Siarter ers mis Mehefin 2004. Un o ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn y BBC. Cyfarwyddwr Freeview a Digital UK. Cyfarwyddwr anweithredol Y Rheoleiddiwr Pensiynau.Ymhlith ei swyddi blaenorol mae Cyfarwyddwr Strategaeth a Materion Corfforaethol, BBC World Service; Golygydd Comisiynu, Gwyddoniaeth a Busnes yn Channel 4 a chynorthwy-ydd gwleidyddol i Roy Jenkins. Cyhoeddodd Stephen Dando, cyn Gyfarwyddwr, BBC People, ei ymddiswyddiad ym mis Ionawr 2006 a gadawodd y BBC ym mis Ebrill 2006. Penodwyd Jeremy Nordberg fel Cyfarwyddwr Dros Dro tra’n aros i Gyfarwyddwr newydd gael ei recriwtio. BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 13 Arolwg y Llywodraethwyr o’r amcanion Trosolwg Mae ein cyfrifoldebau fel Llywodraethwyr yn cynnwys pennu amcanion blynyddol i’r BBC. Rydym yn adolygu perfformiad y rheolwyr yn erbyn yr amcanion hyn yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn ac yn cyhoeddi asesiad ffurfiol yn yr Adroddiad Blynyddol. Mae’r Adroddiad hwn yn dilyn y patrwm hwnnw ac yn yr adran hon, cyflwynwn adroddiad ar berfformiad yn erbyn ein hamcanion ar gyfer 2005/2006. Fodd bynnag, yn y dyfodol, bydd yr Ymddiriedolaeth a fydd yn cymryd lle’r Llywodraethwyr yn defnyddio cyfres newydd o systemau er mwyn dal y BBC i gyfrif (gweler tudalen 6,Y BBC nawr ac yn y dyfodol). Bydd yn rhaid i’r Ymddiriedolaeth benderfynu a yw’n awyddus i barhau â’r system bresennol o amcanion blynyddol yn ogystal â’r systemau atebolrwydd newydd. Yn y cyfamser, rydym wedi parhau â llawer o amcanion y llynedd – wedi’u diwygio fel y bo’n briodol – i 2006/2007. Nodir yr amcanion hyn ar dudalen 21. 14 BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 408,415 awr o Deledu a Radio’r BBC wedi’i ddarlledu yn 2005/2006 – 46.6 awr o ddarlledu ar gyfer pob awr o bob dydd Amcan un Strategaeth rhaglenni Sicrhau bod rheolwyr y BBC yn datblygu strategaeth olygyddol bum mlynedd ar gyfer rhaglenni a gwasanaethau’r BBC sy’n canolbwyntio ar gynyddu gwerth cyhoeddus i’r eithaf. Yn 2005/2006 bydd hyn yn cynnwys:  Dechrau gostwng nifer y rhaglenni a gaiff eu hailddarlledu ar BBC One yn ystod oriau brig  Gwneud gwaith i ddeall pryderon cynulleidfaoedd ynghylch rhaglennu deilliadol yn well, ac yn benodol, gostwng nifer y rhaglenni trawsnewid a ffordd o fyw ar BBC One yn ystod oriau brig  Dechrau cynyddu’r buddsoddiad cyffredinol mewn comedi a drama wreiddiol o’r DU Fe’n calonogir gan y dechrau da a wnaed o ran cyflawni’r amcan hwn.Ym mis Mawrth 2005, lansiodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol Dyfodol Creadigol, arolwg uchelgeisiol ac eang o genres rhaglenni allweddol. Nod y broses yw troi ymrwymiadau cyhoeddus y BBC o ran ansawdd, creadigrwydd a rhagoriaeth yn strategaeth olygyddol ar gyfer y pump i saith mlynedd nesaf gan ganolbwyntio ar bwrpasau cyhoeddus y BBC fel y’u nodir yn y Siarter newydd. Cyflwynwyd canfyddiadau cychwynnol y gwaith hwn i’r Llywodraethwyr eu trafod yn ystod y flwyddyn.Ym mis Ebrill 2006, gwnaed y cyhoeddiadau cyhoeddus cyntaf yn deillio o’r prosiect Dyfodol Creadigol. Beethoven Cyfuno llwyfannau: llwyddodd Beethoven, dramaddogfen BBC Two i ategu Beethoven Experience Radio 3 a ddarlledodd holl gerddoriaeth y cyfansoddwr dros gyfnod o wythnos Nododd y cyhoeddiadau hyn gyflymder eithriadol y newid yn nisgwyliadau’r gynulleidfa ac ym maes technoleg gan archwilio sut y byddent yn effeithio ar feysydd cynyrchiadau allweddol: newyddiaduraeth, drama, cerddoriaeth, chwaraeon, comedi, adloniant, plant a phobl ifanc yn eu harddegau a meithrin gwybodaeth.Ymhlith y themâu pwysig yn deillio o’r gwaith roedd: angen i feddwl ar draws llwyfannau gwahanol – hynny yw, ar draws teledu, radio a’r rhyngrwyd o ran cynulleidfaoedd gartref a chynulleidfaoedd symudol; angen i wyro buddsoddiad a ffocws creadigol tuag at wasanaethau 24/7; angen i gydnabod y bydd gwasanaethau yn ôl y galw yn un o’r ffactorau allweddol a fydd yn llywio sut y bydd y BBC yn cyflwyno cynnwys yn y dyfodol a hefyd sut y bydd yn ei gomisiynu; angen i ailddyfeisio ymagwedd y BBC tuag at y rhyngrwyd; ac yn olaf, angen i ddatblygu cydberthynas newydd â chynulleidfaoedd fel partneriaid a chyfranogwyr. Gwneir rhagor o waith yn ystod y flwyddyn nesaf i droi’r canfyddiadau yn strategaethau gwasanaeth arloesol. Byddwn ni, ac wedi hynny yr Ymddiriedolaeth, yn craffu arnynt wrth iddynt ddatblygu ac yn sicrhau, lle y bo’n briodol, y cynhelir Profion Gwerth Cyhoeddus. Nid yw arloesedd, wrth gwrs, yn nod ynddo’i hun. Mae cynulleidfaoedd yn disgwyl ansawdd uchel gan y BBC yn ogystal ag arloesedd, a byddwn yn sicrhau y rhydd y rheolwyr ystyriaeth lawn i farn y gynulleidfa o ran ansawdd unrhyw gynyrchiadau newydd. Yn y cyfamser, nodwn fod BBC One yn parhau i wneud cynnydd tuag at leihau nifer yr ailddarllediadau yn ystod oriau brig. Y lefel yn 2005/2006 oedd 8.9% (9.7% yn 2004/2005).Yn y tymor hwy, disgwylir gostyngiadau sylweddol pellach – gan leihau ailddarllediadau BBC One yn ystod oriau brig i tua 5%. Ond ni fydd y gostyngiadau hyn yn dangos yn llawn ar y sgrîn tan 2008 gan ei bod yn cymryd amser i ganlyniadau comisiynau newydd ddod i’r amlwg ac i Extras Cyflwyno comedi newydd i’r BBC: ysgrifennodd, cyfarwyddodd ac ymddangosodd Ricky Gervais a Stephen Merchant, creawdwyr The Office, yn eu comedi newydd, Extras ganlyniadau ymgyrch effeithlonrwydd y Cyfarwyddwr Cyffredinol gynhyrchu’r cyllid buddsoddi newydd sydd ei angen. Nid ydym yn disgwyl gweld gostyngiad o lawer mwy na 0.4% eleni (i lefel islaw 8.5%) ac adlewyrchir hyn yn ein hamcan diwygiedig ar gyfer 2006/2007. Dengys gwaith ymchwil sy’n mynd rhagddo gan Deledu’r BBC fod gan gynulleidfaoedd deimladau cadarnhaol yn ogystal â theimladau negyddol ynghylch ailddarllediadau. Er bod lefel oddef isel tuag at ailddarllediadau yn ystod oriau brig ar BBC One, dywed bron i hanner yr ymatebwyr eu bod yn gwerthfawrogi cyfle i ddal i fyny ar raglenni a gollwyd ganddynt, ac mae bron i ddwy ran o dair yn cytuno bod rhai rhaglenni y byddent bob amser yn fwy na pharod i’w gweld eto. Wrth weithredu ei waith yn y maes hwn, mae angen i’r BBC bennu polisi clir ar gyfer ailddarllediadau sy’n rhoi ystyriaeth lawn i agweddau talwyr ffi’r drwydded a newidiadau mewn technoleg – yn arbennig y symudiad tuag at wasanaethau yn ôl y galw. Mae’r rheolwyr yn gweithio ar hyn. Am beth amser, bu pryderon gennym o ran gostyngiad yng nghanfyddiadau’r gynulleidfa o ansawdd cynyrchiadau Teledu’r BBC ac rydym yn falch o weld rhywfaint o dystiolaeth bod canfyddiadau yn gwella – gostyngodd nifer y bobl a oedd yn anghytuno â’r datganiad “y BBC sy’n gosod y safonau ar gyfer gwneud rhaglenni yn y DU” o 26% i 23% rhwng C4 2003 a C4 2005. Un ffactor sy’n effeithio ar ganfyddiadau o ansawdd yw pryder y gynulleidfa o ran rhaglennu deilliadol. Er mwyn ceisio ennyn gwell dealltwriaeth o’r materion, gofynnodd yr Uned Lywodraethu i BBC Audience Research ailarchwilio data a oedd yn bodoli eisoes – yn arbennig arolwg Pulse y BBC (holiadur ar-lein dyddiol a anfonir at 15,000 o wylwyr teledu cynrychioliadol). Cyflwynwyd y canfyddiadau i ni ym mis Mawrth 2006. Daeth yn amlwg BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 15 Arolwg y Llywodraethwyr o’r amcanion Cyfanswm y gwariant darlledu 2005/2006 (£miliwn) Teledu Radio bbc.co.uk BBC jam Teledu rhyngweithiol (BBCi) Radio lleol a theledu rhanbarthol Gwariant sy’n gysylltiedig â rhaglenni Gorbenion a Digital UK Ailstrwythuro Costau trosglwyddo a chasglu Cyfanswm 2006 1,443 218 72 36 18 370 338 315 107 320 3,237 2005 1,456 221 69 8 17 356 339 282 51 309 3,108 I gael eglurhad pellach o’r ffigurau hyn gweler Nodyn 2b ar dudalennau 106 i 107 o’r ymchwil fod a wnelo pryder y gynulleidfa nid yn unig â rhaglennu unfath ond â hen fformatau diddychymyg a oedd yn dangos diffyg gwreiddioldeb ac arloesedd. Roedd y rheolwyr eisoes wedi dechrau datblygu strategaeth hir dymor i adfywio a gwella uchelgais amserlen min nos oriau brig BBC One a gofynnwyd iddynt ystyried y canfyddiadau hyn yn y gwaith hwn – drwy ganolbwyntio eu hymdrechion ar raglenni neu fformatau a allai fod wedi cyrraedd diwedd eu hoes greadigol. Adlewyrchir hyn yng ngeiriad diwygiedig ein hamcan ar gyfer 2006/2007. Yn unol â’n hamcan ar gyfer 2005/2006, gostyngodd nifer y rhaglennu trawsnewid a ffordd o fyw yn ystod oriau brig ar BBC One i 6.5% yn 2005/2006 (o 7.7% yn 2004/2005). Adlewyrchir hyn yn arbennig ym mhenderfyniad y rheolwyr i beidio ag ailgomisiynu Changing Rooms a Groundforce. Fodd bynnag, credwn y dylid cadw rhywfaint o raglennu ffordd o fyw fel rhan o’r gymysgedd ar BBC One – mae’n apelio’n arbennig i’r cynulleidfaoedd y mae’r BBC yn ei chael hi’n anodd eu cyrraedd, gan gynnwys pobl 25 i 34 oed a rhai grwpiau o leiafrifoedd ethnig. Hefyd yn unol â’n hamcan, mae gwaith yn mynd rhagddo i gynyddu’r buddsoddiad mewn comedi a drama. Mewn comedi, BBC One (lle y cyhoeddwyd chwe rhaglen gomedi beilot eisoes) a BBC Two fydd yn gweld y budd mwyaf. Mewn drama, mae’r buddsoddiad yn dechrau cael ei weld ar y sgrîn, ond mae’r amserau arwain hwy yn y maes hwn yn golygu na fydd newid sylweddol yn amlwg tan 2007/2008. Mae dros hanner y buddsoddiad ychwanegol yn mynd i BBC One, gyda rhywfaint o fuddsoddiad ychwanegol yn BBC Three. Amcan dau Datblygu digidol Sicrhau bod rheolwyr y BBC yn datblygu’r farchnad ar gyfer teledu digidol am ddim, radio digidol a’r cyfryngau newydd wrth barhau i ddiwallu anghenion y gynulleidfa analog yn unig drwy:  Codi ymwybyddiaeth o sut y mae gwasanaethau digidol y BBC yn ychwanegu gwerth at y portffolio cyffredinol  Gwella eu hargaeledd  Gweithio mewn partneriaeth â’r sector masnachol er mwyn cynyddu nifer y bobl sy’n manteisio arnynt Ategwyd rôl allweddol y BBC yn y maes hwn gan benderfyniad y Llywodraeth i osod chweched pwrpas cyhoeddus ar y BBC yn y Siarter newydd,sef “adeiladu Prydain ddigidol”, a gallwn nodi y gwnaed cynnydd cadarnhaol yn ystod y flwyddyn. Mae gan y BBC nifer o rolau i’w chwarae. Mae’r rhain yn cynnwys: parhau i annog pobl i fanteisio ar wasanaethau digidol drwy ddarparu a marchnata cynnwys digidol o ansawdd uchel; codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o bob agwedd ar y broses o newid i ddigidol a darparu gwybodaeth iddynt amdani; a pharhau i gefnogi Digital UK, y corff sy’n cydlynu’r broses o newid i deledu digidol yn y DU. Bellach, y DU sydd â’r crynodiad teledu digidol uchaf o blith unrhyw wlad yn y byd ac yn ddiau, bu ymdrechion marchnata’r BBC o gymorth i gyflawni’r gamp hon. Erbyn diwedd 2005, roedd gan tua 70% o gartrefi’r DU o leiaf un set deledu a oedd yn gallu derbyn teledu digidol ac roedd 24% ohonynt wedi newid pob un o’u setiau. O’r cartrefi analog yn unig a oedd yn weddill, roedd dros dri chwarter yn ymwybodol o Freeview. Fodd bynnag, gostyngodd ymwybyddiaeth o sianelau digidol y BBC yn y cartrefi hyn rywfaint. Mae hyn bron yn sicr yn adlewyrchu’r tebygolrwydd bod y cartrefi hyn, yn ôl eu diffiniad, bellach yn cynnwys cyfran uwch o’r bobl anos i’w darbwyllo. Roedd tua un o bob tri chartref yn y DU yn gwbl ddigidol (hynny yw, yn gallu derbyn holl wasanaethau’r BBC drwy’r teledu a band eang) erbyn diwedd 2005. Mae cyrraedd y ffigur hwn yn garreg filltir arwyddocaol, ond mae llawer i’w wneud o hyd. Er enghraifft, bu twf band eang yn nodedig; fodd bynnag, ymddengys y gellir priodoli’r rhan fwyaf o’r twf hwn i gartrefi band cul a uwchraddiodd, yn hytrach na chartrefi newydd yn cysylltu â’r rhyngrwyd. Hynny yw, nid yw’n dangos bod rhaniad digidol y rhyngrwyd wedi lleihau yn sylweddol. Bu’r ffordd orau o ganolbwyntio ei ymdrech farchnata yn fater cynyddol i’r BBC. Ar yr un llaw, mae angen dybryd i annog pobl i gymryd eu camau cyntaf i’r byd digidol; ar y llaw arall, mae angen annog y rheini sydd eisoes wedi cymryd y cam hwnnw i ddatblygu ymhellach a dod yn gwbl ddigidol. Ceir rhywfaint o bryder y gallai’r negeseuon a fwriadwyd i’r grwp cyntaf godi gwrychyn yr ail grwp. Roedd yn bleser gennym nodi o dystiolaeth arolygon yr ystyrir bod sianelau digidol y BBC yn “ddefnydd da o ffi’r drwydded” gan gyfran gynyddol o’r cynulleidfaoedd.Ystyrir yn arbennig bod BBC News 24 yn “ddefnydd da o ffi’r drwydded” gan bron i 70% o’r gynulleidfa (er bod y ganran hon wedi gostwng ychydig eleni). Mae ymwybyddiaeth o radio digidol yn cynyddu ac mae gwerthiannau setiau DAB yn cynyddu’n gyflym – yn gyflymach na’r cynnydd o ran cyrhaeddiad gorsafoedd digidol y BBC. Efallai 16 BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 BBC News 24 Datblygu digidol: Simon McCoy a Kate Silverton yn cyflwyno BBC News 24, un o bortffolio’r BBC o sianelau ychwanegol i wylwyr digidol bod hyn yn adlewyrchu’r ffaith mai er mwyn gwella derbyniad y mae’r rhan fwyaf o bobl yn prynu setiau, ac nad yw ymddygiad gwrando yn newid yn awtomatig wrth brynu set. Felly rydym wedi gofyn i’r ymdrech farchnata gynnwys rhywfaint o ffocws ar gynnwys gwasanaethau DAB y BBC a’u gwerth unigryw i dalwyr ffi’r drwydded yn ogystal ag ar fynediad i’r gwasanaethau. Llwyddodd bbc.co.uk i gynnal lefelau ymwybyddiaeth uchel ac mae’n bleser gennym nodi cynnydd o ran ymwybyddiaeth o BBCi 24/7 – 48.2% (42.4% 2004/2005) – gan adlewyrchu’r ymdrech farchnata a wnaed i hyrwyddo ei gynyrchiadau newyddion a phlant craidd. Mae cyfyngiadau technegol ac ariannol yn atal cyfleoedd i wella argaeledd gwasanaethau digidol. Ni ellir cynyddu cwmpas gwasanaethau daearol digidol y tu hwnt i’r 73% presennol tan y bydd y broses o newid i ddigidol wedi’i chwblhau. Mae cynnydd sylweddol pellach yn rhwydwaith DAB y BBC yn dibynnu ar setliad ffi’r drwydded. O ran teledu digidol, mae’r BBC yn parhau â’i ymdrechion – gyda darlledwyr cyhoeddus masnachol – i lansio gwasanaeth lloeren am ddim. Byddai hyn yn ymestyn sianelau digidol y BBC i ardaloedd nad yw Freeview yn eu cyrraedd ar hyn o bryd. Yn y cyfamser, fe’n calonogwyd gan ymdrechion y BBC i gynyddu nifer y bobl sy’n manteisio ar wasanaethau digidol drwy feithrin partneriaethau â gweithgynhyrchwyr, adwerthwyr a darlledwyr ar draws teledu, radio, symudol ac ISPs band eang.Yn ogystal, bu’r BBC yn rhan o gonsortiwm Freeview i sicrhau bod technoleg a chynnwys Freeview yn barod ar gyfer y newid. Bu’r BBC hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y broses o sefydlu a lansio Digital UK (‘SwitchCo’ gynt) a’i strategaeth gyfathrebu. Urban Classic Adeiladu pontydd: MC Purple gyda Cherddorfa Gyngerdd y BBC - cydweithrediad rhwng 1Xtra, un o orsafoedd digidol y BBC, a Radio 3, yn creu cysylltiadau rhwng cynulleidfaoedd gwahanol iawn Amcan Tri Gwerth am arian Sicrhau bod rheolwyr y BBC yn gweithredu canfyddiadau’r arolwg gwerth am arian drwy:  Gwneud arbedion o £105miliwn yn 2005/2006 tuag at y targed o gael arbedion blynyddol o £355miliwn erbyn 2008  Datblygu cynllun manwl tair blynedd i drawsnewid prosesau’r BBC a’i wneud yn fwy effeithlon ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion talwyr ffi’r drwydded Gwnaed cynnydd da tuag at yr amcan hwn.Ym mis Mawrth 2005, cyhoeddodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol raglen effeithlonrwydd tair blynedd sy’n anelu at gyflawni arbedion arian parod blynyddol crynswth parhaus o £355miliwn erbyn 2007/2008. Rhagorodd y BBC ar ei darged arbedion ar gyfer 2005/2006, sy’n cynnwys £99miliwn o arbedion arian parod parhaus a £7miliwn pellach o newidiadau unigol i’r cymysgedd genre rhaglenni. Mae ar y trywydd cywir i gyflawni ei darged tair blynedd o arbedion blynyddol. Cyflawnwyd mwyafrif yr arbedion arian parod drwy ddiswyddiadau o fewn is-adrannau cynnwys a gwasanaethau proffesiynol a ostyngodd nifer y staff 917 a 215 yn y drefn honno. Disgwylir y bydd ail flwyddyn y rhaglen yn arwain at fwy o arbedion o ganlyniad i newidiadau trawsffurfiannol i ffyrdd o weithio. 5.4c cost fesul awr gwylio/gwrando i’r BBC, yn seiliedig ar ddefnydd cyfartalog Rhagwelwyd yn y cynllun gwreiddiol y byddai costau gweithredu untro o £197miliwn dros gyfnod y rhaglen tair blynedd.Yn ystod y flwyddyn, cynyddodd y rhagamcan hwn £44miliwn i £241miliwn, gyda’r cynnydd yn deillio’n bennaf o gostau cynyddu pensiwn uwch y diswyddiadau. Er bod y gwariant gwirioneddol ar gostau gweithredu yn 2005/2006, sef £34miliwn, yn is na’r hyn a ragwelwyd, mae hyn o ganlyniad i wahaniaethau amseru’r diswyddiadau a disgwylir i’r costau gweithredu untro cyffredinol barhau ar £241miliwn. Mae’r arbedion a nodwyd uchod yn rhagori ar y targedau hunan-help saith mlynedd cronnol o £3.3biliwn erbyn 2006/2007 y cytunwyd arnynt gyda’r DCMS ar gyfer cyfnod y Siarter bresennol. Mae’r targedau gwerth am arian yn uchelgeisiol ac yn gofyn am ddulliau rheoli newid cadarn. Cyflogwyd PA Consulting gennym i roi sicrwydd i ni bod cynlluniau tair blynedd y rheolwyr yn ddigon manwl a chadarn i lywio’r newid trawsffurfiannol sydd ei angen i gyflawni’r targedau. Gweithredodd y rheolwyr ar rai o argymhellion PA Consulting: maent wedi cymryd perchnogaeth lawn a phriodol dros y rhaglen newid ac wedi cyflwyno fframwaith monitro cadarn; ac maent wedi atgyfnerthu eu tîm newid canolog sy’n ymgynghori ag arweinwyr ar bob lefel fusnes. Mae cynlluniau newid is-adrannol manwl yn cynnwys mapiau ffordd, cerrig milltir allweddol a mesurau gyda gweithdrefnau rheolaidd ar gyfer cofnodi cynnydd yn eu herbyn i’r rheolwyr a’r Llywodraethwyr. Bu’r cynnydd tuag at ddatblygu seilwaith fusnes llawn – gan sefydlu’r egwyddorion sy’n sail i weithredu strategaeth gytûn y BBC – yn arafach na’r disgwyl. Fodd bynnag, gwnaed cynnydd sylweddol erbyn hyn a disgwylir y caiff y fframwaith llawn ei gwblhau yn ystod yr hydref gan ymgorffori argymhellion Dyfodol Creadigol a setliad ffi’r drwydded. BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 17 Arolwg y Llywodraethwyr o’r amcanion Amcan pedwar Bod yn ddiduedd ac yn annibynnol Sicrhau bod y BBC yn cyrraedd y safonau uchaf o gywirdeb, tegwch a bod yn ddiduedd a ddisgwylir gan gynulleidfaoedd ym mhob un o’i raglenni. Yn benodol, cryfhau prosesau golygu er mwyn darparu newyddiaduraeth o safon y gellir ymddiried ynddi drwy weithredu argymhellion Adroddiad Neil a gweithredu ar arolygon annibynnol y Llywodraethwyr ar fod yn ddiduedd. Yn gyffredinol, rydym yn fodlon â’r perfformiad yn erbyn yr amcan hwn.Yn ystod y flwyddyn dan sylw, cyflawnodd darllediadau newyddion y BBC safonau uchel o ran cywirdeb, bod yn ddiduedd ac annibyniaeth, a gwnaed cynnydd sylweddol wrth weithredu argymhellion Adroddiad Neil ac arolygon y Llywodraethwyr ar fod yn ddiduedd. Lluniwyd Adroddiad Neil yn dilyn arolwg gan y rheolwyr o dan arweiniad Ronald Neil – cyn Gyfarwyddwr BBC Newyddion a Materion Cyfoes – i ystyried gwersi golygyddol Ymchwiliad Hutton i farwolaeth Dr David Kelly. Cyhoeddwyd yr adroddiad yn 2004 a chymeradwywyd ei argymhellion gennym, a oedd yn cynnwys newidiadau i arferion newyddiaduraeth, ymdrin â chwynion golygyddol a’r ffordd y caiff newyddiadurwyr y BBC eu hyfforddi.Yn arbennig, argymhellodd y dylid sefydlu Coleg Newyddiaduraeth y BBC a gwnaed cynnydd yn hynny o beth (gweler tudalen 64). Roedd yr argymhellion eraill eisoes wedi’u gweithredu. 1.7 miliwn o gysylltiadau gan aelodau o’r cyhoedd i BBC Gwybodaeth yn 2005/2006 O ran bod yn ddiduedd, daeth yr her fawr gyntaf ym mis Mai gyda’r Etholiad Cyffredinol. Fel y bu, roedd nifer y cwynion ynghylch bod yn ddiduedd, annhegwch a chydbwysedd yn isel. Daeth y gwyn proffil uchaf o’r Blaid Geidwadol mewn perthynas â The Heckler ar BBC Three, astudiaeth o heclo gwleidyddol gan BBC Newyddion. Anfonodd gwneuthurwyr y rhaglen dri heclwr i gyfarfod cyhoeddus a oedd yn cael ei annerch gan arweinydd y Ceidwadwyr ar y pryd, Michael Howard. Gosodwyd meicroffonau radio ar yr heclwyr i recordio eu hymyriadau ond fe’u gwelwyd gan drefnwyr y cyfarfod a atafaelodd yr offer. Honnodd cwyn y Ceidwadwyr achos o duedd a thorri canllawiau’r BBC. Gwrthbrofodd y rheolwyr y ddau gyhuddiad, ni chyfeiriwyd y gwyn i’r Llywodraethwyr, a darlledwyd y rhaglen heb unrhyw gwynion pellach. Dechreuodd yr ymgyrch hunan-fomio yn Llundain ar 7 Gorffennaf ddadl gyhoeddus ddwys am ddefnydd y BBC o’r gair ‘terfysgwr’. Nid yw Editorial Guidelines cyhoeddedig y BBC yn gwahardd y gair ond maent yn nodi: “The word ‘terrorist’ can be a barrier rather than an aid to understanding.We should try to avoid the term, without attribution. We should let other people characterise while we report the facts as we know them.” Dadleuodd nifer o sylwebwyr yn erbyn y datganiad hwn, gan awgrymu bod y BBC, mewn gwirionedd, yn cydoddef terfysgaeth drwy betruso ynghylch defnyddio’r gair. Yn dilyn y ddadl gyhoeddus hon, adolygodd y rheolwyr y canllaw cyhoeddedig. Penderfynasant beidio â gwneud unrhyw newid i’r canllaw ond i gyhoeddi nodyn arweiniad i wneuthurwyr rhaglenni’r BBC yn darparu cyd-destun ychwanegol ar werth manwl gywirdeb a chysondeb iaith. Cymeradwywyd yr ymagwedd hon gennym, ac fe’i cyhoeddwyd i ategu’r cyngor yn yr Editorial Guidelines (mae testun y nodyn arweiniad ar gael ar dudalen gyngor adran Editorial Guidelines bbc.co.uk). Newswatch Bod yn agored ac yn atebol: rhydd gwefan Newswatch lais i gynulleidfaoedd a allai fod yn anfodlon â BBC Newyddion Yn yr haf, creodd Live8, y digwyddiad cerddoriaeth byd-eang a gynhaliwyd i dynnu sylw at ddyled yn y Trydydd Byd yn ystod wythnos uwchgynhadledd G8, her olygyddol arall. Bu’n rhaid i’r BBC ddod o hyd i ffordd o wasanaethu ei gynulleidfaoedd – a oedd yn briodol yn disgwyl gweld a chlywed y digwyddiad hwn – ond gan fodloni ei ymrwymiad i fod yn ddiduedd ar yr un pryd drwy beidio â chaniatáu i’r BBC gael ei weld fel cyfrwng i ddarlledu ymgyrch wleidyddol am ddim.Trafodwyd y materion o ran bod yn ddiduedd mewn fforymau polisi golygyddol o fewn y BBC yn ystod y cyfnod cyn Live8, ac fe’u codwyd gyda ni mewn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol. O ganlyniad, yn ogystal â’r digwyddiad ei hun, darlledwyd amrywiaeth o ddeunydd a oedd yn ei osod yn ei gyd-destun ac yn galluogi’r gwylwyr a’r gwrandawyr i lunio barn eu hunain am y materion dan sylw. Yn ystod y flwyddyn, comisiynwyd astudiaeth o lwyddiant darllediadau BBC Newyddion o’r gwrthdaro rhwng yr Israeliaid a’r Palestiniaid wrth fod yn ddiduedd (gweler y blwch), a gofynnwyd i’r rheolwyr roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar y cynnydd wrth weithredu canfyddiadau ein hastudiaeth gynharach ar fod yn ddiduedd wrth ddarlledu hynt yr UE (gweler tudalen 65). O ran canfyddiadau’r gynulleidfa, dengys canlyniadau arolwg olrhain rheolaidd a gynhelir gan MORI fod tua thri chwarter y cyhoedd yn y DU (76%) yn datgan mai yn rhaglenni newyddion y BBC roeddent yn ymddiried fwyaf i roi barn deg, hyddysg a chytbwys ar ddigwyddiadau a materion pwysig o gymharu ag unrhyw raglenni newyddion eraill. Pan ofynnwyd iddynt ystyried yr holl wasanaethau a ddarperir gan y prif ddarlledwyr, yn hytrach na’r newyddion yn unig, cred dros hanner y rheini a arolygwyd mai i’r BBC y mae’r geiriau ‘Teg’,‘Cywir’a ‘Gallu Ymddiried Ynddo’yn fwyaf perthnasol. Mewn arolwg ar wahân, cred tua thri 18 BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 Gwariant rhaglenni yn ôl genre 2005/2006 (£miliwn) 2006 2005 Ffeithiol a dysgu 394 351 Newyddion a materion cyfoes 485 458 Adloniant 253 267 Chwaraeon 372 438 Plant 140 134 Drama 427 398 Cerddoriaeth a’r celfyddydau 241 245 Llafar – Radio Lleol 182 175 Cyfanswm 2,494 2,466 Mae Addysg i blant wedi’i gynnwys o fewn Plant; mae Ffilm wedi’i gynnwys o fewn Drama; mae Crefydd wedi’i gynnwys o fewn Ffeithiol a dysgu Sioe deithiol y Llywodraethwyr Gwrando ar dalwyr ffi’r drwydded: Cadeirydd y BBC, Michael Grade a’i gyd-Lywodraethwyr yn ymateb i gwestiynau mewn cyfarfod cyhoeddus yng Nghaerdydd. Mae gweithgarwch atebolrwydd cyhoeddus yn rhan bwysig o rôl y Llywodraethwyr chwarter y llunwyr barn (73%) fod y BBC yn ddiduedd ac yn annibynnol. Mae cyfran y cefnogwyr Ceidwadol sydd o’r farn bod y BBC yn dangos tuedd yn erbyn y Blaid Geidwadol wedi gostwng o 26% yn C2 2005 i 21% yn C1 2006. Fel yr amlygwyd gan Gadeirydd y BBC yn ei Ddarlith Cyfryngau Goodman ym mis Mai 2005, mae’r BBC yn wynebu heriau newydd o ran bod yn ddiduedd o ganlyniad i newid technolegol a chymdeithasol. Mewn cydweithrediad â rheolwyr y BBC, rydym yn arwain prosiect i gyflwyno cyfres o egwyddorion a fydd yn sail i fod yn ddiduedd yn ystod yr 21ain ganrif. Bydd y prosiect yn ceisio nodi sut y gallwn fod yn ddiduedd mewn ffyrdd sy’n berthnasol ac a all ddarbwyllo gwahanol gynulleidfaoedd y BBC. Bydd y ffocws ar gynulleidfaoedd a chynyrchiadau’r DU a byddwn yn ystyried y goblygiadau i bob genre o raglennu. Gweler tudalennau 89 i 90 am ragor o wybodaeth am gydymffurfiad golygyddol. Darllediadau BBC Newyddion o’r gwrthdaro rhwng yr Israeliaid a’r Palestiniaid Ym mis Hydref 2005, comisiynwyd panel annibynnol gennym wedi’i gadeirio gan Syr Quentin Thomas, Llywydd Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain, i “asesu pa mor ddiduedd y bu darllediadau BBC Newyddion a Materion Cyfoes o’r gwrthdaro rhwng yr Israeliaid a’r Palestiniaid gan roi ystyriaeth arbennig i gywirdeb, tegwch, cyd-destun, cydbwysedd a thuedd, boed yn wirioneddol neu’n ganfyddedig. Cyflwynodd y panel eu hadroddiad i ni ym mis Ebrill 2006 ac fe’i cyhoeddwyd gennym yn llawn yn fuan wedi hynny. Ei brif ganfyddiad oedd na fu unrhyw duedd bwriadol na systemataidd. Fodd bynnag, aeth y panel ymlaen i ddweud fod y gynulleidfa yn teimlo nad ydynt yn deall y gwrthdaro ac, efallai am y rheswm hwnnw, nad ydynt o’r farn ei fod yn bwysig nac yn ddiddorol. Roedd y panel o’r farn bod angen gohebu llawn a theg er mwyn bod yn ddiduedd ac yn hynny o beth, nodwyd ganddynt bod darllediadau’r BBC yn anghyson, nad oeddent bob amser yn darparu’r darlun cyflawn ac yn yr ystyr hwnnw, eu bod yn gamarweiniol. Gwnaeth y panel nifer o argymhellion, gan gynnwys y dylai’r BBC ddarparu mwy o gyd-destun i dalwyr ffi’r drwydded er mwyn gwella eu dealltwriaeth o gymhlethdodau’r gwrthdaro. Rhoesom yr adroddiad i’r rheolwyr gan ofyn iddynt ymateb i ni erbyn mis Mehefin 2006, gyda’r ymateb hwnnw yng nghyd-destun Adroddiad Neil. Mae adroddiad y panel ar gael ar wefan Llywodraethwyr y BBC: www.bbcgovernors.co.uk. Caiff ymateb y rheolwyr hefyd ei gyhoeddi ar y wefan, ynghyd â’n casgliadau ni. Amcan pump Atebolrwydd i gynulleidfaoedd Darparu mwy o dryloywder ac atebolrwydd i dalwyr ffi’r drwydded yn 2005/2006 drwy’r dulliau canlynol yn benodol:  Cael y rheolwyr i sicrhau bod y newidiadau i’r broses o ymdrin â chwynion yn cael eu gweithredu ar draws y sefydliad  Sicrhau bod y Llywodraethwyr yn datblygu Trwyddedau Gwasanaeth fel y prif offeryn ar gyfer gwarchod arian cyhoeddus yn effeithiol Fe’n calonogwyd gan y cynnydd ar yr amcan hwn ac edrychwn ymlaen at ddatblygiadau pellach i gynyddu tryloywder ac atebolrwydd pan gaiff yr Ymddiriedolaeth ei sefydlu. Gwnaed newidiadau i’r system ymdrin â chwynion ym mis Chwefror 2005 ac maent bellach wedi ymsefydlu’n gadarn ar draws y BBC. Nod y system yw sicrhau bod y BBC yn ymdrin â chwynion golygyddol yn effeithiol, gan gynnwys ymateb i achwynwyr o fewn deg diwrnod gwaith. I ddechrau, ymdrinnir â chwynion naill ai gan y rhaglen dan sylw, neu gan BBC Gwybodaeth. Gall achwynwyr sy’n anfodlon â’r ymateb gysylltu â’r Uned Cwynion Golygyddol annibynnol, ac, os byddant yn dal yn anfodlon, â Phwyllgor Cwynion am Raglenni’r Llywodraethwyr, sef y llys apêl terfynol. Yn 2005/2006, derbyniodd 91% o’r holl gwynion i’r BBC ymateb o fewn deg diwrnod gwaith – gwelliant o 88% ar ddechrau’r flwyddyn. I weld yr adroddiad llawn ar gwynion golygyddol yn 2005/2006, gweler tudalen 62. BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 19 Arolwg y Llywodraethwyr o’r amcanion Cymeradwyaeth y gynulleidfa i’r BBC Cyrhaeddiad misol cyfun Teledu’r BBC, Radio’r BBC a bbc.co.uk (%) Fodd bynnag, mae’r system hon ar gyfer cwynion golygyddol yn unig ac nid yw’n ymdrin â materion fel trwyddedu’r teledu neu gwynion ynghylch digwyddiadau oddi ar yr awyr. Mae’r Cytundeb newydd drafft, a gyhoeddir ochr yn ochr â’r Siarter newydd, yn ei gwneud yn ofynnol i’r Ymddiriedolaeth ddatblygu ac ymgynghori ar fframwaith cwynion sy’n cynnwys diffiniad clir o’r gwahanol gategorïau o gwynion. Fe’i datblygir yn ystod 2006 a chynhelir ymgynghoriad unwaith y bydd yr Ymddiriedolaeth wedi’i sefydlu. Rydym wedi ceisio cynyddu ein gweithgarwch atebolrwydd cyhoeddus eleni. Cynhaliwyd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyntaf erioed yn Llundain ac ers hynny, cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus gennym yn Glasgow, Caerdydd a Belfast.Yn ystod y flwyddyn, lansiwyd ein gwefan ein hunain gennym: www.bbcgovernors.co.uk. Bu ymgynghoriadau â’r cyhoedd hefyd yn ddatblygiad allweddol eleni gyda nifer yn cael eu lansio ers haf 2005. Nodir manylion yr ymgynghoriadau hyn – a’r materion a godwyd gan dalwyr ffi’r drwydded yn ein cyfarfodydd cyhoeddus – ar wefan y Llywodraethwyr. Un maes lle yr oeddem am wybod mwy am farn talwyr ffi’r drwydded oedd eu hymateb i gais y BBC am ffi’r drwydded (gyda ffi’r drwydded yn cynyddu i £150, yn nhermau punnoedd 2005, yn 2013/2014). Roeddem hefyd am ddeall ymateb talwyr ffi’r drwydded i gynllun y Llywodraeth i ariannu help wedi’i dargedu drwy ffi’r drwydded. Comisiynwyd yr Athro Patrick Barwise gennym i gynnal ymchwiliad annibynnol i’r ddau faes hyn. Daeth ei adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2006, i’r casgliadau canlynol:  Nid oes unrhyw un pwynt penodol lle y byddai parodrwydd i dalu yn gostwng yn ddramatig  Po fwyaf y bydd defnyddwyr yn ei wybod am wasanaethau newydd arfaethedig y BBC, y mwyaf cadarnhaol yw eu hagwedd  Pan ofynnwyd iddynt ei ystyried, a phe 2005/2006 6.6 2004/2005 6.5 2003/2004 6.7 2002/2003 6.8 2001/2002 6.8 2000/2001 6.5 Ffynhonnell: Astudiaeth Olrhain y BBC cyfan, 15+ oed Noder: Mae’r ffigurau yn sgôr cymedrig allan o ddeg byddai’n rhaid iddynt ddewis rhwng talu ffi’r drwydded a cholli gwasanaethau’r BBC, byddai’r rhan fwyaf o dalwyr ffi’r drwydded, pe byddai’n rhaid iddynt, yn talu’n sylweddol uwch na’r £10 y mis a delir ar hyn o bryd am wasanaethau presennol y BBC  Pe cynyddai ffi’r drwydded i £150 y flwyddyn (yn nhermau punnoedd 2005) yn 2013/2014 byddai cyfran y bobl a fyddai’n barod i dalu am wasanaethau presennol yn gostwng o tua 75–80% heddiw i tua 65-70% yn 2013/2014. Mae’r lefel hon yn cynyddu i 70–75% os ychwanegir y gwasanaethau newydd arfaethedig  Pan ofynnwyd iddynt am atodiad ffi’r drwydded i dalu am help i bobl ddiamddiffyn yn ystod y broses o newid i wasanaethau digidol, mae 53% o’i blaid a 47% yn ei erbyn. Fodd bynnag, os bydd y Llywodraeth yn penderfynu bwrw ati â’r cynnig hwn, ni fyddai pawb o reidrwydd yn gwrthwynebu’n llwyr Un o’r dulliau atebolrwydd allweddol sydd wrthi’n cael eu datblygu ar hyn o bryd yw’r Trwyddedau Gwasanaeth. Bydd y trwyddedau yn nodi manylion cyllideb a chylch gwaith pob un o wasanaethau’r BBC, sut y maent yn cyfrannu at gyflawni pwrpasau cyhoeddus y BBC, a sut y dylid mesur perfformiad. Roedd ein gwaith yn hyn o beth yn cynnwys ymgynghori â’r cyhoedd ar y fframwaith yn ystod rhan olaf 2005. Mae’r ymatebion (y gellir eu gweld ar wefan y Llywodraethwyr) yn cael eu hystyried ar hyn o bryd wrth ddrafftio’r Trwyddedau Gwasanaeth eu hunain. Mae Trwyddedau Gwasanaeth yn rhan o’r trefniadau llywodraethu newydd a fydd yn dod i rym adeg cyflwyno’r Ymddiriedolaeth a’r Siarter newydd. Rydym wedi gwneud llawer o waith i ddatblygu ein hatebolrwydd wrth baratoi ar gyfer trosglwyddo’r awenau i’r Ymddiriedolaeth. Mae atebolrwydd i dalwyr ffi’r drwydded yn holl bwysig ar draws y BBC a bydd yn un o flaenoriaethau penodol yr Ymddiriedolaeth. 2005/2006 94.3 2004/2005 95.6 2003/2004 96.6 2002/2003 96.2 Ffynhonnell: Astudiaeth Olrhain y BBC cyfan, defnydd honedig Ers ei benodi, sicrhaodd Cadeirydd y BBC ei fod ar gael yn rheolaidd i dalwyr ffi’r drwydded ei holi ar eitemau ffonio i mewn ar radio’r BBC ac rydym yn datblygu ffyrdd newydd eraill o ymgysylltu â chynulleidfaoedd mewn perthynas â gweithgareddau atebolrwydd. Caiff cynnydd ei fonitro yn ystod y flwyddyn bresennol fel rhan o Amcan Atebolrwydd i Gynulleidfaoedd y Llywodraethwyr ar gyfer 2006/2007. 20 BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 Amcanion y Llywodraethwyr ar gyfer 2006/2007 Mae Siarter bresennol y BBC yn ei gwneud yn ofynnol i ni bennu amcanion blynyddol a chyflwyno adroddiad arnynt. Mae’r amcanion ar gyfer 2006/2007 yn canolbwyntio ar flaenoriaethau pwysig ar draws y BBC cyfan. O dan y Siarter newydd, bydd gan Ymddiriedolaeth y BBC gyfres newydd o systemau ar gyfer dal y BBC i gyfrif yn seiliedig ar gylchoedd gwaith pwrpas, trwyddedau gwasanaeth a Datganiadau o Bolisi Rhaglenni. Bydd yr Ymddiriedolaeth yn dod i benderfyniad o ran pa un a oes rôl barhaus i amcanion corfforaethol blynyddol i’r BBC. Yn y cyfamser, rydym wedi penderfynu y dylai amcanion 2006/2007 gwmpasu’r un blaenoriaethau strategol â 2005/2006, wedi’u diweddaru i adlewyrchu’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn yn ogystal â mentrau newydd ar gyfer y flwyddyn drosiannol i ddod – a gaiff eu cymeradwyo lle bo angen gan y Llywodraethwyr neu’r Ymddiriedolaeth. 1 Strategaeth rhaglenni Sicrhau bod rheolwyr y BBC yn parhau i ddatblygu strategaeth olygyddol bum mlynedd ar gyfer rhaglenni a gwasanaethau’r BBC drwy droi canfyddiadau Dyfodol Creadigol yn strategaethau gwasanaeth a chynigion ar gyfer y BBC cyfan a dechrau rhoi’r strategaeth honno ar waith. Ym maes Teledu, parhau â’r cynnydd tuag at yr amcanion manwl a osodwyd yn 2005/2006:  Gostwng nifer y rhaglenni a gaiff eu hailddarlledu ar BBC One yn ystod oriau brig i lefel yn is na 8.5% yn 2006/2007 (tuag at darged o 5% yn 2008/2009)1  Parhau i gynyddu’r buddsoddiad cyffredinol mewn comedi a drama wreiddiol o’r DU  Adfywio darllediadau min nos BBC One, gan roi sylw arbennig i gylch oes rhaglenni neu fformatau 1 Y diffiniad o raglenni a gaiff eu hailddarlledu i gynnwys trosglwyddiadau digidol o BBC Three a BBC Four, ond nid rhaglenni a ddangosir ar ddigidol am y tro cyntaf (ee Spooks) 2 Datblygu digidol Sicrhau bod rheolwyr y BBC yn paratoi ar gyfer newid i wasanaethau digidol ac yn datblygu’r farchnad ar gyfer teledu digidol am ddim, radio digidol a’r cyfryngau newydd wrth barhau i ddiwallu anghenion y gynulleidfa analog yn unig drwy:  Godi ymwybyddiaeth o sut y mae gwasanaethau digidol y BBC yn ychwanegu gwerth at y portffolio cyffredinol  Gwella eu hargaeledd  Gweithio mewn partneriaeth â’r sector masnachol er mwyn cynyddu nifer y bobl sy’n manteisio arnynt 3 Gwerth am arian Sicrhau bod rheolwyr y BBC yn cyflawni arbedion gwerth am arian tra’n diogelu cynyrchiadau o ansawdd.Yn 2006/2007, caiff hyn ei fesur yn erbyn y nodau canlynol:  Nifer y staff: Cyflawni’r targedau i leihau nifer y staff 2,055 yn 2006/2007, tuag at y targed o 3,763 ar gyfer y tair blynedd hyd at 2007/2008  Arbedion: Gwneud arbedion arian parod cronnol crynswth o £211miliwn yn 2006/2007, gan gynnwys arbedion arian parod crynswth newydd o £112miliwn, tuag at darged o arbedion arian parod crynswth blynyddol o £355miliwn erbyn 2007/2008 (ar ôl tair blynedd)  Costau gweithredu: Sicrhau na fydd y costau gweithredu yn fwy na £148miliwn yn 2006/2007 o’r cyfanswm costau gweithredu untro o £241miliwn sydd wedi’u cynnwys o fewn y cynllun tair blynedd  Model busnes: Datblygu seilwaith fusnes gydlynus sy’n sail i’r broses o drawsnewid y BBC  Cynllunio ariannol: Gweithredu cynllun ariannol sy’n sicrhau y caiff arian y BBC ei ddyrannu yn y ffordd fwyaf effeithiol i ddiwallu anghenion talwyr ffi’r drwydded, sy’n dechrau pennu targedau ar gyfer gwelliant parhaus ac sy’n ddigon hyblyg i ymdrin â blaenoriaethau newydd gan y gynulleidfa a phwysau cost.Yn arbennig:  Worldwide i wella’r elw a ddychwelir ganddo i’r BBC drwy ddarparu twf dau ddigid yn yr elw sylfaenol (hy ac eithrio eitemau eithriadol) ynghyd â thwf parhaus mewn gwerthiannau ac i gyflawni lefelau perfformiad cystadleuol, gan gyflawni elw ar werthiannau o 10% o leiaf ac enillion cyn llog, treth, dibrisiant ac amorteiddio o 22% o leiaf  Gwerthiannau ffi’r drwydded net i gynyddu 1.04%, gydag achosion o osgoi talu yn gostwng o 4.7% yn 2005/2006 i 4.6% 4 Bod yn ddiduedd Sicrhau bod y BBC yn cyrraedd y safonau uchaf o gywirdeb, tegwch a bod yn ddiduedd a ddisgwylir gan gynulleidfaoedd. Yn benodol, ymateb i arolygon annibynnol y Llywodraethwyr ar fod yn ddiduedd er mwyn sicrhau prosesau golygyddol cadarn a hyfforddiant sy’n darparu newyddiaduraeth o safon y gellir ymddiried ynddi. 5 Atebolrwydd Canolbwyntio ar wella atebolrwydd y BBC i gynulleidfaoedd.Yn arbennig: Uned Lywodraethu’r BBC i:  Datblygu a chynnal arolwg cyhoeddus mawr i ystyried agweddau tuag at y BBC, i’w ystyried gan Ymddiriedolaeth y BBC  Gan baratoi ar gyfer sefydlu’r Ymddiriedolaeth, gweithio gyda’r Cynghorau Darlledu a Fforwm Cenedlaethol Lloegr i ddatblygu cynllun gweithredu i ymgysylltu’n ehangach â chynulleidfaoedd, codi proffil y Cynghorau a rhoi cyngor sy’n ymwneud â phob un o bwrpasau cyhoeddus y BBC Rheolwyr y BBC i:  Ddatblygu strategaethau gwasanaeth newydd mewn ymateb i’r prosiect Dyfodol Creadigol gan sicrhau bod pob cynulleidfa yn cael ei gwasanaethu’n dda ac yn arbennig, i ddarparu ffocws digonol ar wella canfyddiadau ymhlith y cynulleidfaoedd hynny sydd ag agweddau llai ffafriol tuag at y BBC BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 21 Cipolwg ar y BBC Teledu Radio Rhwydwaith rhan amser yw BBC Five Live Sports Nod BBC One yw sicrhau mai hi yw’r sianel deledu a werthfawrogir fwyaf yn y DU, gyda’r amrywiaeth ehangaf o raglenni o ansawdd o blith unrhyw rwydwaith prif ffrwd yn y DU. Nod BBC Two yw cyflwyno teledu heriol a deallus i gynulleidfa eang drwy gyfuno pynciau ffeithiol difrifol ac arbenigol â chomedi arloesol a drama arbennig. Nod BBC Three yw cynnig cynnwys a thalent Brydeinig arloesol, gan ddarparu cymysgedd eang o raglenni a anelir at gynulleidfaoedd iau yn bennaf. Nod BBC Four yw sicrhau mai hi yw’r sianel deledu orau o ran cyfoeth deallusol a diwylliannol ym Mhrydain, gan gynnig cymysgedd arbennig o raglenni dogfen, perfformiadau, cerddoriaeth, ffilm a rhaglenni nodwedd cyfoes. Nod Sianel CBBC yw cynnig amserlen gymysg arbennig i blant 6-12 mlwydd oed, gan eu hannog i ddatblygu diddordebau sydd ganddynt eisoes a diddordebau newydd a’u helpu i ddeall a manteisio ar y byd o’u hamgylch. Nod BBC Radio 1 yw cynnig gwasanaeth o ansawdd uchel i gynulleidfaoedd ifanc sy’n cyfuno’r gerddoriaeth newydd orau, amrywiaeth cynhwysfawr o sesiynau stiwdio byw, cyngherddau a darllediadau o wyliau, ac allbwn llafar wedi’i deilwra. Nod BBC Radio 2 yw cyflwyno amrywiaeth eang o gerddoriaeth boblogaidd ac arbenigol sy’n canolbwyntio ar dalent Brydeinig a pherfformiadau byw i wrandawyr, a ategir gan amrywiaeth eang o allbwn llafar. Mae BBC Radio 3 yn canolbwyntio ar gerddoriaeth glasurol, ac mae hefyd yn anelu at ddarparu amrywiaeth eang o gerddoriaeth jazz a cherddoriaeth y byd, drama a’r celfyddydau, ac yn cynnwys perfformiadau byw a pherfformiadau wedi’u recordio’n arbennig. Mae BBC Radio 4 yn defnyddio grym y gair llafar i gynnig rhaglennu sylweddol sy’n ceisio ymgysylltu ac ysbrydoli gyda chymysgedd unigryw o raglenni ffeithiol, drama, darlleniadau a chomedi. Mae BBC Radio Five Live yn darlledu newyddion a chwaraeon byw 24 awr y dydd, a’i nod yw cyflwyno digwyddiadau wrth iddynt ddigwydd mewn modd hygyrch, gyda phwyslais arbennig ar dargedu pobl rhwng 25 a 44 mlwydd oed. Extra sy’n darparu darllediadau chwaraeon ychwanegol drwy hawliau sydd eisoes yn eiddo i BBC Radio Five Live er mwyn sicrhau gwerth uwch i dalwyr ffi’r drwydded. Nod 1Xtra yw chwarae’r goreuon o blith cerddoriaeth ddu gyfoes, gyda phwyslais cryf ar gyflwyno cerddoriaeth fyw o ansawdd uchel a chefnogi artistiaid newydd o Brydain. Nod BBC 6 Music yw ymgysylltu â phobl sy’n mwynhau cerddoriaeth boblogaidd drwy gynnig y gerddoriaeth orau o archif sain y BBC ynghyd â cherddoriaeth gyfredol nad yw’n gerddoriaeth brif ffrwd, wedi’i hategu gan newyddion a rhaglenni dogfen am gerddoriaeth. Gwasanaeth radio digidol llafar yw BBC 7 sy’n cynnig comedi, drama a darlleniadau o archif sain y BBC yn bennaf. Dyma gartref radio llafar i blant hefyd. Nod BBC Asian Network yw cynnig cymysgedd gyfoes o gerddoriaeth a deunydd llafar, gyda phwyslais penodol ar drafodaethau heriol a pherfformiadau byw, i Asiaid Prydeinig ifanc. Nod CBeebies yw cynnig cymysgedd o raglenni o ansawdd uchel a gynhyrchir yn y DU a gynllunnir i annog dysgu drwy chwarae i blant pump oed neu iau, mewn amgylchedd cyson ddiogel. 22 BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 Cyfryngau Newydd Newyddion Y Gwledydd a’r Rhanbarthau Nod bbc.co.uk yw darparu cynnwys ar-lein arloesol ac arbennig, gan hyrwyddo’r defnydd o’r rhyngrwyd i ddatblygu perthynas agosach â thalwyr ffi’r drwydded ac atgyfnerthu atebolrwydd y BBC. Mae BBCi yn cynnig y cynnwys diweddaraf drwy gydol y dydd i gynulleidfaoedd teledu digidol gan gynnwys newyddion, y tywydd, dysgu, adloniant a rhaglennu rhyngweithiol. Gwasanaeth ar-lein am ddim yw BBC jam sy’n darparu adnoddau rhyngweithiol o ansawdd uchel a strwythurir o gwmpas elfennau allweddol y cwricwlwm ysgol ar gyfer plant a phobl ifanc 5 i 16 oed. Nod BBC News yw darparu’r newyddiaduraeth orau yn y byd a cheisio sicrhau ei le fel y sefydliad newyddion yr ymddiriedir ynddo fwyaf yn y byd: yn gywir, yn ddiduedd ac yn annibynnol. Nod BBC News 24 yw darparu newyddion, dadansoddiadau a mewnwelediad, gyda chymorth gweithrediadau casglu newyddion y BBC, drwy gydol y dydd, bob diwrnod o’r flwyddyn. BBC Parliament yw’r unig sianel yn y DU sy’n ymroddedig i ddarllediadau o fyd gwleidyddiaeth, gan gynnwys dadleuon, pwyllgorau a gwaith siambrau datganoledig y DU. Mae BBC World Service yn darparu newyddion rhyngwladol, dadansoddiadau a gwybodaeth yn Saesneg a 32 o ieithoedd eraill ar y radio a’r rhyngrwyd. Sianel deledu newyddion a gwybodaeth 24 awr ryngwladol y BBC a ariennir yn fasnachol yw BBC World. Mae BBC English Regions yn gwasanaethu amrywiaeth eang o gymunedau trefol a gwledig ar y teledu, ar y radio ac ar lein a’i nod yw sicrhau mai ef yw’r darlledwr lleol mwyaf creadigol a’r un yr ymddiriedir ynddo fwyaf yn Lloegr. Nod BBC Scotland yw cynhyrchu amrywiaeth eang o raglenni teledu a radio nodedig ar gyfer pob grwp oedran sy’n adlewyrchu natur amrywiol yr Alban yn briodol. Mae BBC Cymru yn ymrwymedig i gynhyrchu gwasanaethau sy’n adlewyrchu diwylliant a hanes unigryw Cymru, a’i thirlun cymdeithasol a gwleidyddol. Nod BBC Northern Ireland yw darparu rhywbeth o werth i bawb yn y gymuned drwy ei bortffolio eang o raglenni a gwasanaethau sy’n adlewyrchu diddordebau a phrofiadau lleol. BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 23 Arolwg y Llywodraethwyr o’r gwasanaethau – Teledu Trosolwg Mae Teledu’r BBC yn wynebu cystadleuaeth sylweddol gynyddol wrth i nifer y sianelau digidol dyfu’n gyflym. Mae cynulleidfaoedd BBC One a BBC Two wedi gostwng ac nid yw nifer gynyddol y bobl sy’n gwylio sianelau digidol BBC Three a BBC Four wedi llwyddo i wneud iawn am y colledion hynny hyd yma. Collwyd gwylwyr ifancach mewn niferoedd arbennig o uchel – pan fyddant yn newid o analog i ddigidol maent yn tueddu hefyd i wylio llai o deledu. Mae ffocws amlwg y Cyfarwyddwr Cyffredinol ar ddenu cynulleidfaoedd ifancach yn ôl fel blaenoriaeth i’r cyfnod sydd i ddod yn rhoi tawelwch meddwl i ni. O ran creadigrwydd, cafodd BBC One flwyddyn eithriadol. Mae BBC Two yn parhau i fireinio ei hamserlen er mwyn cynyddu ei hapêl a’i chyrhaeddiad tra’n parhau i fodloni ei chylch gwaith. Mae cynulleidfa BBC Three yn parhau i dyfu’n gadarn – yr her yw ehangu ei chyrhaeddiad drwy apelio i gynulleidfaoedd ifanc. Cafodd BBC Four flwyddyn dda iawn ac mae ei chynulleidfaoedd yn ei chanmol yn uchel iawn. O ran teledu i blant, mae creadigrwydd Sianel CBBC yn parhau yn gryf a llwyddodd i barhau i gynyddu ei chynulleidfa. Cofnododd CBeebies ostyngiad mewn cyrhaeddiad, adlewyrchiad o’r angen dybryd i adnewyddu creadigrwydd y sianel ac o’r gystadleuaeth gynyddol am ei chynulleidfa. Mae Teledu’r BBC bellach yn defnyddio deunydd o amrywiaeth eang o ffynonellau y tu mewn a’r tu allan i’r BBC. Gwnaeth BBC Cymru gyfraniad arbennig o gryf i ddarllediadau drama’r BBC eleni. 24 BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 20 miliwn o bobl – y nifer a wyliodd o leiaf 15 munud o Planet Earth (BBC One, Mawrth-Ebrill 2006) Cylch gwaith Nod BBC One yw sicrhau mai hi yw’r sianel deledu a werthfawrogir fwyaf yn y DU, gyda’r amrywiaeth ehangaf o raglenni o ansawdd o blith unrhyw rwydwaith prif ffrwd yn y DU. Mae’r sianel yn ymrwymedig i ehangu apêl pob genre drwy sicrhau bod amrywiaeth o bynciau yn hygyrch i gynulleidfa eang. Mae BBC One yn ymrwymedig i ddarlledu digwyddiadau chwaraeon a materion cyffredinol cenedlaethol a rhyngwladol, gan ddarparu llwyfan ar gyfer rhaglenni nodedig ac archwilio ffyrdd newydd o gyflwyno pynciau arbenigol. Erys y broses barhaus o foderneiddio BBC One, sef gwasanaeth teledu blaenllaw’r Gorfforaeth, yn flaenoriaeth allweddol i’r BBC. Yn ystod y flwyddyn dan sylw, cafodd y sianel rai llwyddiannau creadigol eithriadol. Fodd bynnag, ni lwyddodd y llwyddiannau hyn i atal gostyngiad pellach yng nghyrhaeddiad cyffredinol y gynulleidfa.Ymhob cartref, gostyngodd cyfartaledd cyrhaeddiad wythnosol 15 munud BBC One i wylwyr 4+ oed 2.2 pwynt canran, neu bron i un filiwn o bobl. Cyfartaledd y cyrhaeddiad yn 2005/2006 oedd 79.7% neu 44.5 miliwn o bobl (81.9%/ 45.4 miliwn yn 2004/2005)1. Mae angen ystyried y ffigurau hyn yn eu cyd-destun. Mewn amgylchedd cynyddol gystadleuol, mae BBC One yn parhau i gyrraedd mwy o wylwyr nag unrhyw sianel deledu arall mewn cartrefi analog ac amlsianel. Mewn cartrefi amlsianel, lle mae’r dewis gwylio yn ôl ei ddiffiniad yn llawer ehangach, mae dros dri o bob pedwar gwyliwr yn dal i wylio BBC One. Mae lledaeniad cyflym teledu digidol, a’r rhaniad anochel i’r gynulleidfa sydd ynghlwm â hynny, yn golygu efallai bod Bleak House Dangos drama glasur o ansawdd uchel: aelodau cast Bleak House – cafodd BBC One effaith fawr drwy ddarlledu’r clasur cyfresol hwn gan Dickens fel opera sebon, ymagwedd a oedd yn unol â dull cyhoeddi gwreiddiol y nofel rhywfaint o ostyngiad o ran cyrhaeddiad yn anochel dros amser, ac mae’r twf o ran cyrhaeddiad sianelau digidol y BBC ei hun yn gwneud iawn i ryw raddau (er nad yn llwyr) am y gwylwyr y mae BBC One yn eu colli. Serch hynny, o gofio maint cyllideb y sianel a’i phwysigrwydd o ran cynyddu bodlonrwydd cyffredinol talwyr ffi’r drwydded â’r BBC, ni allwn orffwys ar ein rhwyfau. Mae problem arbennig gyda gwylwyr ifanc sy’n tueddu fwyfwy i wylio llai o deledu pan fyddant yn newid o analog i ddigidol. Nodwn ymrwymiad y rheolwyr yn y Datganiadau o Bolisi Rhaglenni i fynd i’r afael â’r gostyngiad mewn cyrhaeddiad ym maes drama boblogaidd ac adloniant teuluol sy’n denu cynulleidfa iau. Bydd hyn yn golygu parhau i gymryd risgiau creadigol, a pharhau yn benderfynol pan na fyddant yn llwyddo. Er enghraifft, yn y pen draw, aflwyddiannus fu ymgais BBC One i sefydlu Davina McCall mewn lleoliad anghyfarwydd, ond roedd yr ymgais yn werth ei gwneud. Gwelwyd llwyddiannau creadigol mewn amrywiaeth eang o genres gan gynnwys drama, adloniant a ffeithiol. Mewn drama, mae tri theitl – oll yn wahanol iawn eu natur – yn dod i’r amlwg: Bleak House, Doctor Who a Life on Mars. Maent wedi helpu BBC One i gynnal ei statws fel y “sianel ddrama orau” o blith holl sianelau’r DU yn ymchwil y BBC i gynulleidfaoedd. Roedd Bleak House yn gyfuniad o’r holl bethau y mae cynulleidfaoedd yn eu disgwyl gan ddrama wisg glasurol gan y BBC: actio gwych (a chastio llawn dychymyg), ysgrifennu cadarn, cyfarwyddyd deallus a’r gwerthoedd cynhyrchu uchaf.Yr hyn a’i gwnaeth yn wahanol oedd y penderfyniad i’w darlledu fel opera sebon, gyda rhifynnau hanner awr o hyd yn cael eu darlledu drwy’r wythnos a rhifyn omnibws ar benwythnosau. Roedd yn syniad ysbrydoledig a oedd yn unol ag egwyddor cyhoeddi wreiddiol nofel Dickens, a gyhoeddwyd mewn rhannau, gyda phob rhifyn yn gorffen mewn ffordd gyffrous, Strictly Come Dancing Gwneud adloniant cryf i deuluoedd: y cricedwr Darren Gough, enillydd Strictly Come Dancing 2005, gyda’i bartner Lilia Kopylova. Mae fformat y gyfres wedi cael llwyddiant rhyngwladol fel un o allforion teledu Prydeinig a llwyddodd i ddenu cynulleidfaoedd mawr a gwerthfawrogol. Mae rhaglenni o’r fath yn diffinio’r cysyniad o ansawdd ar y BBC. Mae Doctor Who wedi parhau i ddifyrru teuluoedd sy’n gwylio fin nos ar nos Sadwrn – gan ddangos ffraethineb a dawn go iawn. Er y gallai ymadawiad Christopher Eccleston o’r brif ran fod wedi achosi problemau, manteisiwyd ar y cyfle a llwyddwyd i osod David Tennant yn y rôl mewn pryd i gymryd rhan mewn rhifyn arbennig dros gyfnod y Nadolig cyn iddo ddechrau cyfres newydd yn 2006/2007. Ategir darllediadau teledu Dr Who gan wefan gyfoethog a chynhaliwyd arbrofion llawn dychymyg gydag elfennau rhyngweithiol – ategwyd y rhifyn arbennig dros gyfnod y Nadolig gan antur ryngweithiol a ysgrifennwyd yn arbennig ac a welwyd drwy bwyso’r botwm coch. Llwyddwyd i ddenu cynulleidfa o bron hanner miliwn.Yn ein hymgynghoriadau â gwylwyr a gwrandawyr, maent yn aml yn nodi rhaglenni fel Dr Who fel adloniant da gan y BBC i’r teulu. Mae Strictly Come Dancing, a gafodd gyfres lwyddiannus arall, yn rhaglen arall sy’n denu canmoliaeth ddigymell debyg gan gynulleidfaoedd. Roedd Life on Mars hefyd yn seiliedig ar y syniad o deithio drwy amser – y tro hwn i ailddyfeisio un o’r genres teledu mwyaf sefydlog, y gyfres dditectif. Llwyddodd i osod synwyrusrwyddau’r 21ain ganrif yn erbyn realiti’r 1970au (gan gynnwys ffasiwn y 1970au) drwy ddefnyddio plot lle yr anfonwyd ditectif modern yn ôl mewn amser. Roedd ei gafael ar ymwybod y cyhoedd yn amlwg yn nifer yr erthyglau barn mewn papurau newydd a ddefnyddiodd deitl y gyfres fel man cychwyn ar gyfer erthyglau hiraethlon yn cymharu ffyrdd y presennol a’r gorffennol. Un o gryfderau mawr BBC One yw ei hamrywiaeth – nid yn unig o ran drama ac adloniant, ond o ran crefydd, ffeithiol, rhaglenni dogfen, newyddion a materion cyfoes, plant, chwaraeon a mwy – a’r ffaith y gall gyflwyno BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 25 Arolwg y Llywodraethwyr o’r gwasanaethau – Teledu ansawdd drwyddi draw, nid dim ond mewn rhai genres penodol.Ymhlith y darllediadau ffeithiol cofiadwy roedd Planet Earth, gyda llais David Attenborough, a ddefnyddiodd dechnolegau newydd ym maes gwneud ffilmiau i roi golwg agos anhygoel i’r gynulleidfa o elfennau o natur nas gwelir yn aml. Roedd dilyniant y dyn camera Mark Smith o lewpard eira yn hela gafr fynydd fry yn yr Himalayas – sef uchafbwynt ymdrech blwyddyn o hyd – yn gyflawniad eithriadol. Gwelwyd doniau gwych David Attenborough fel cenhadwr dros y byd naturiol a dehonglydd ohono hefyd yn ei gyfres ar fyd y pryfed, Life in the Undergrowth, ar BBC One. Roedd nifer o ddigwyddiadau hysbys mawr yn ystod y flwyddyn. Dathlwyd 60 mlynedd ers Diwrnod VE a Diwrnod VJ yn llwyddiannus gyda chymysgedd o ddarllediadau awyr agored o’r digwyddiadau cyhoeddus mawr a darllediadau yn archwilio’r cyd-destun hanesyddol. Gwelwyd tystiolaeth o allu’r BBC i gyflwyno darllediadau awyr agored mawr ar fyr rybudd ac i ymdopi â phroblemau logisteg cymhleth dros gyfnod o 48 awr ym mis Ebrill gyda darllediadau clodwiw o angladd Pab John Paul II yn Rhufain, wedi’u dilyn y diwrnod canlynol gan ddarllediadau yr un mor gofiadwy o briodas Tywysog Charles a Camilla Parker Bowles yn Windsor.Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, trefnwyd Live8, y cyngerdd yn Hyde Park i dynnu sylw at dlodi yn Affrica yn ystod wythnos uwchgynhadledd y G8, ar fyr rybudd eithriadol ac roedd darllediadau’r BBC hyd yn oed yn fwy nodedig o gofio hynny. Affrica hefyd oedd thema tymor Africa Lives y BBC. Darlledwyd y dathliad a’r archwiliad hwn o fywyd a diwylliant Affrica ar draws holl sianelau a llwyfannau’r BBC ond fe’i harweiniwyd gan BBC One. Roedd yn cynnwys darllediadau o sawl gwahanol genre, gan gynnwys The Girl in the Café, comedi ramantus a ysgrifennwyd gan Richard Curtis; Geldof in Africa, taith bersonol gan Bob Geldof, a rhan o stori yn Holby City a anfonodd ddau gymeriad i Ghana. Live8 Llwyfannu digwyddiadau mawr: roedd cyngerdd Live8 yn Hyde Park, a drefnwyd ar fyr rybudd, yn brawf mawr – ond nid anorchfygol – i’r BBC Er bod y darllediadau yn amrywiol o ran ansawdd, ar y cyfan, roedd hon yn fenter gyhoeddus o uchelgais clodwiw, ac o faint a chwmpas na allai ond y BBC fod wedi’u cyflwyno. Drwy hap, cynhaliwyd Live8 yn ystod tymor Affrica ac o ganlyniad, codwyd rhai materion o ran ein gallu i fod yn ddiduedd – dengys ein hadroddiad ar dudalen 18 sut y’u rheolwyd. Ymhlith y darllediadau celfyddydol poblogaidd nodedig roedd A Picture of Britain, dathliad o dirlun Prydain fel y’i gwelwyd drwy lygaid artistiaid, awduron a chyfansoddwyr. Cyflwynwyd y gyfres hon, cydweithrediad â Tate Britain, gan David Dimbleby, a ddangosodd fod ei ymagwedd arbennig yn gweithio’n dda ar ddeunydd gwahanol iawn i’w arlwy arferol sef gwleidyddiaeth a materion cyfoes. Denodd gynulleidfa newydd i raglennu celfyddydol ar BBC One. Daeth The Queen, by Rolf, a oedd yr un mor gofiadwy, â chamerâu’r BBC i Balas Buckingham i wylio Rolf Harris yn paentio portread o’r Frenhines i ddathlu ei phen-blwydd yn 80 oed – un o’r cyfuniadau mwyaf hynod o fynediad, cast ac achlysur i’w weld unrhyw le ar deledu Prydain yn ystod y flwyddyn. Dychwelodd Little Britain i BBC One am gyfres lwyddiannus arall. Fodd bynnag, er i’r sianel lwyddo i gynnal ei statws ymhlith ei holl gystadleuwyr yn y DU fel y “sianel gomedi orau” yn ymchwil y BBC i gynulleidfaoedd, mae angen dybryd i gyflwyno comedïau newydd eraill sy’n denu cynulleidfaoedd prif ffrwd ac yn bodloni disgwyliadau’r gynulleidfa o BBC One yn y genre rhaglenni allweddol hwn. Mae’r Cyfarwyddwr Cyffredinol wedi nodi comedi ar BBC One fel blaenoriaeth uchel ar gyfer buddsoddiad ychwanegol ac mae nifer o raglenni peilot newydd yn yr arfaeth. Erys EastEnders yn rhan bwysig o amserlen BBC One ac yn ddull pwysig o lywio canfyddiadau o’r sianel yn gyffredinol.Y llynedd, bu rhywfaint o amheuon o ran ei pherfformiad. Eleni, ymddengys ei fod wedi Planet Earth Rhoi ffocws arbennig i fyd natur: cyflwynodd cyfres ddiweddaraf David Attenborough, Planet Earth,olwg fanwl o fyd natur, gan gynnwys lluniau unigryw o lewpard eira yn yr Himalayas, nas gwelir yn aml ac na chafwyd lluniau tebyg ohono erioed o’r blaen sefydlogi. Cafodd hyn ei adlewyrchu yn y ffaith bod sgoriau BBC One wedi sefydlogi pan ofynnwyd i gynulleidfaoedd pa sianel oedd orau o ran operâu sebon – roedd y sgoriau hyn wedi gostwng yn sylweddol yn 2004/2005 – a chan y gwobrau a enillwyd, gan gynnwys Bafta. Fodd bynnag, ITV yw’r sianel flaenllaw yn y maes hwn o hyd, gan adlewyrchu’n rhannol y ffaith ei bod yn darlledu llawer mwy o operâu sebon. Mynegodd gwylwyr werthfawrogiad cryf a digymell o rifyn arbennig o EastEnders i ddathlu Diwrnod y Cadoediad. Yn ystod blwyddyn gymharol dawel o ran chwaraeon ar BBC One, dangosodd darllediadau o Rygbi’r Chwe Gwlad a Gemau’r Gymanwlad unwaith eto bod digwyddiadau chwaraeon mawr yn boblogaidd iawn o hyd. Mae cynulleidfaoedd yn aml yn sôn am ailddarllediadau yn ein hymgynghoriadau ac fe’n calonogir gan gynnydd parhaus BBC One wrth leihau nifer yr ailddarllediadau yn ystod oriau brig. Am ragor o wybodaeth, gweler ein hadroddiad ar dudalennau 15 i 16. 1 Cynyddodd y boblogaeth 4+ oed 400,000 rhwng 2004/2005 a 2005/2006 26 BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 Springwatch Olrhain newidiadau rhwng tymhorau: llwyddodd Bill Oddie a Kate Humble i gynnwys y gynulleidfa wrth gofnodi dechrau’r gwanwyn – helpodd miloedd o bobl i greu darlun manwl o ddyfodiad y tymor ledled y DU Cylch gwaith Nod BBC Two yw bod yn sianel genre cymysg sy’n cyfuno pynciau ffeithiol difrifol ac arbenigol â chomedi arloesol a drama arbennig i gyflwyno teledu heriol a deallus i gynulleidfa eang. Yn 2003, cymeradwywyd strategaeth newydd gennym ar gyfer BBC Two a oedd yn anelu at bwysleisio ei rôl gyhoeddus arbennig fel sianel a oedd yn cynnig cymysgedd mwy heriol o ddarllediadau na BBC One ac, yn arbennig, gyda chraidd ffeithiol cadarn ac arbennig. Cyflawnwyd hyn drwy wyro cyllid o adloniant, lleihau nifer y rhaglenni ffordd o fyw a chynyddu’r amser a neilltuwyd i’r celfyddydau a materion cyfoes yn ystod oriau brig. Cyflawnwyd y broses adleoli ond o ganlyniad, gwelwyd gostyngiad o ran nifer y gynulleidfa, a waethygwyd gan gystadleuaeth gynyddol am wylwyr gan y nifer gynyddol o sianelau digidol. Parhaodd cyrhaeddiad y gynulleidfa i ostwng, er bod cyfradd y gostyngiad wedi arafu a gallai hyn fod yn arwydd bod cynulleidfaoedd yn sefydlogi, er bod problemau o ran cyrraedd cynulleidfaoedd ifancach a chynulleidfaoedd o leiafrifoedd ethnig.Yn 2005/2006, cyfartaledd y cyrhaeddiad wythnosol 15 munud i wylwyr 4+ oed ymhob cartref oedd 59.1% neu 33 miliwn o bobl (61.4%/34 miliwn yn 2004/2005)2. Fodd bynnag, dim ond cyfartaleddau yw’r ffigurau hyn. Mae’r cyrhaeddiad yn uwch mewn cartrefi analog yn unig, ond yn sylweddol is mewn cartrefi lloeren. Awgryma hyn fod BBC Two yn wynebu bygythiadau pellach i’w statws gyda’r gynulleidfa wrth i’r DU symud tuag at gael gwared ar deledu analog yn llwyr. The Catherine Tate Show Buddsoddi mewn comedi arbennig: sioe sgetsys Catherine Tate, a gafodd ei hail dymor yn 2005 – rhan o ymateb y BBC i bwysau gan y gynulleidfa i ddatblygu talent comedi newydd o’r DU Yn Adroddiad Blynyddol y llynedd, nodwyd gennym fod rheolwr newydd y sianel yn adolygu’r broses o weithredu’r strategaeth gyda’r nod o ehangu ei hapêl. Cyflwynwyd y canlyniadau i ni ym mis Gorffennaf 2005. Y brif her a nodwyd oedd cysylltu â chynulleidfaoedd digidol a rhagweld sut y byddai technolegau yn ôl y galw yn ehangu. Er bod gwerthfawrogiad ymhlith y gynulleidfa yn uchel, ac y bu rhywfaint o arloesi ym maes cerddoriaeth, y celfyddydau a chrefydd yn ogystal â thwf o ran materion cyfoes am 9pm, roedd swm y drama a’r comedi gwreiddiol wedi gostwng. Er mwyn gwrthbwyso hyn, cynlluniwyd buddsoddiad pellach yn y ddau genre hwn, ynghyd ag arloesi pellach ym maes rhaglenni ffeithiol.Ar yr un pryd,dechreuodd treialon i archwilio buddiannau posibl technolegau yn ôl y galw drwy gyflwyno rhaglenni ar fand eang drwy’r wefan ar ei newydd wedd. Dylai hyn gynyddu cyrhaeddiad gan y bydd cynulleidfaoedd yn gallu gwylio y tu allan i’r slot ar yr amserlen. Cymeradwywyd y cynigion hyn gennym i esblygu’r sianel ymhellach a byddwn yn parhau i fonitro cynnydd. Yn ystod y flwyddyn dan sylw, darlledodd BBC Two amrywiaeth eang o gynyrchiadau eithriadol, gan gynnwys Elusive Peace: Israel and the Arabs, cyfres tair rhan yn archwilio’r wyth mlynedd diwethaf ym mhroses heddwch y Dwyrain Canol drwy gyfweliadau ag ymgyrchwyr allweddol. Roedd Coast, a oedd yn ganlyniad partneriaeth gydweithredol ar draws y BBC, yn gyfres uchelgeisiol yn archwilio hanes a daearyddiaeth forol arfordir y DU. Ymhlith y cyfresi comedi cryf roedd Extras, antur ddiweddaraf Ricky Gervais i gomedi hunan-dwyll,ac atgyfnerthodd Catherine Tate ei henw da gyda chyfres newydd o The Catherine Tate Show, a gyflwynodd fwy o’u harwyddeiriau i’n hiaith bob dydd. Addaswyd trioleg arwrol William Golding o nofelau To the Ends of the Earth i greu drama glasur gofiadwy.Ysgogodd rhaglen ddogfen ddiddorol Martin Scorsese ar Bob Dylan, 6 miliwn oedd cyfartaledd y gynulleidfa ar gyfer rhifyn olaf The Apprentice (BBC Two, Chwefror-Mai 2006) Arena: No Direction Home, ddiddordeb aruthrol. Roedd Holocaust – A Music Memorial Film from Auschwitz yn deyrnged deimladwy i’r cerddorion Iddewig a fu farw yn y gwersylloedd marwolaeth. Gemau Olympaidd y Gaeaf oedd uchafbwynt chwaraeon ar y sianel yn ystod y flwyddyn. Llwyddodd Springwatch, a gyflwynwyd gan Bill Oddie, i ddenu cynulleidfa fawr gyda’i hymagwedd wreiddiol tuag at fyd natur i gynulleidfaoedd teuluol. Anogodd y gwylwyr i gyfrannu eu harsylwadau eu hunain o fyd natur drwy ei harolwg cenedlaethol o ffenomena’r gwanwyn. Denodd The Monastery gynulleidfaoedd mawr a gwerthfawrogol wrth iddi ddilyn pum dyn lleyg a oedd yn treulio 40 diwrnod a noson mewn mynachlog Fenedictaidd yn ceisio darganfod a oedd gan ddisgyblaethau mynachol unrhyw beth i’w gynnig iddynt hwy. Roedd y rhaglen yn enghraifft annisgwyl, ystyrlon a theimladwy o sut y gellid defnyddio technegau teledu realiti i archwilio themâu ysbrydol difrifol. Daeth Top Gear, un o gonglfeini hirsefydledig yr amserlen â ffraethineb, asbri ac arddulliau cynhyrchu llawn dychymyg i’w ddarllediadau o geir ac unrhyw beth cysylltiedig. Dychwelodd The Apprentice a Dragon’s Den am ail gyfresi llwyddiannus, gan gyflwyno’r byd busnes ac entrepreneuriaeth mewn ffordd arloesol i gynulleidfaoedd newydd. Bu The Apprentice yn un o lwyddiannau’r treial band eang ar bbc.co.uk/bbctwo, lle y rhoddwyd cyfle i bobl lawrlwytho rhaglenni cyfan – roedd y galw cychwynnol gan y cyhoedd yn arwydd o apêl bosibl rhaglennu cyfryngau gwahanol. 2 Cynyddodd y boblogaeth 4+ oed 400,000 rhwng 2004/2005 a 2005/2006 BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 27 Arolwg y Llywodraethwyr o’r gwasanaethau – Teledu Cylch gwaith Nod BBC Three yw cynnig cynnwys a thalent Brydeinig arloesol a anelir at gynulleidfaoedd iau yn bennaf. Mae’r sianel yn ymrwymedig i amserlen gymysg o newyddion, materion cyfoes, cerddoriaeth, y celfyddydau, cynnwys ffeithiol i feithrin gwybodaeth a darlledu materion rhyngwladol, yn ogystal â drama, comedi ac adloniant newydd ac arbennig o ansawdd uchel. Mae cynulleidfaoedd BBC Three yn parhau i dyfu.Yn 2005/2006, cyfartaledd y cyrhaeddiad wythnosol 15 munud i wylwyr 4+ oed mewn cartrefi amlsianel oedd 16.1% neu 6.8 miliwn o bobl (14.8%/5.6 miliwn yn 2004/2005)3. Adeg ei lansio yn 2004, rhoddwyd cylch gwaith heriol iawn i BBC Three – roedd yr amodau cymeradwyaeth a osodwyd arni gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn llawer manylach nag ar gyfer sianelau teledu digidol eraill y BBC. Yn gyffredinol, mae wedi gwneud yn dda gan lwyddo i gynnal ei hymrwymiad i gynnwys a gynhyrchir yn y DU a’i chylch gwaith i arloesi a chymryd risgiau. Fodd bynnag, roedd yn amlwg nad oedd rhannau o’r amserlen yn darparu gwerth am arian, yn arbennig y 7 O’Clock News. Fel y nodwyd gennym yn Adroddiad Blynyddol y llynedd, gofynnwyd i’r rheolwyr ystyried rôl newyddion ar BBC Three yn y dyfodol a chyflwynwyd eu casgliadau i ni ym mis Mehefin 2005. Y prif argymhelliad oedd cael gwared ar y newyddion am 7pm a chau ei wefan. Er y dylid canmol ei arloesedd, ni lwyddodd y bwletin na’i wasanaethau newyddion rhyngweithiol cysylltiedig i ddenu cynulleidfa sylweddol. Nid felly rhaglen newyddion arall y sianel bob awr, 60 Seconds, a fu’n fformat llwyddiannus ar Funland Comisiynu drama arloesol: Ian Pulestone-Davies a Frances Barber yn y ddrama arswyd gomig dywyll Funland – rhan o ymrwymiad BBC Three i gyflwyno drama newydd arbennig i’w chynulleidfaoedd gyfer cyflwyno newyddion i’r cynulleidfaoedd o oedolion ifancach a dargedwyd gan y sianel. Ni fu arbrofion i newid amser darlledu’r bwletin hwy ac addasu ei fformat a’r ffordd o’i gyflwyno yn llwyddiannus o ran cynyddu ei effaith yn sylweddol. Ail argymhelliad y rheolwyr oedd y dylid newid cylch gwaith y sianel. Roedd y geiriad gwreiddiol yn ymrwymo’r sianel i nifer o is- genres ffeithiol penodol gan gynnwys addysg, gwyddoniaeth, crefydd a moeseg, a busnes. Yn ymarferol, gwelodd rheolwyr y sianel fod y nifer uchel hon o ymrwymiadau cul yn eu llesteirio yn hytrach na’u helpu i gyflwyno cynnwys ffeithiol o ansawdd uchel i’w cynulleidfaoedd. Nid oedd rhai o gynyrchiadau ffeithiol mwyaf llwyddiannus BBC Three yn gweddu’n hawdd i’r is-genres penodedig. Er enghraifft, nid oedd yn glir pa un a ddylid dosbarthu Little Angels (ar sgiliau magu plant) neu Body Hits (ar faterion iechyd) fel addysg neu wyddoniaeth.Ym marn y rheolwyr, byddai’n fwy cynhyrchiol cyfuno eu hymrwymiadau i greu un categori ‘meithrin gwybodaeth’ ac i gynyddu eu hymrwymiadau o ran oriau yn y maes hwn. Cymeradwywyd y ddau argymhelliad gennym. Gyda chytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol newidiwyd geiriad y cylch gwaith (nodir y geiriad newydd ar frig yr arolwg hwn). Mae ymrwymiad y sianel i gynyrchiadau ffeithiol sy’n meithrin gwybodaeth wedi arwain at rai llwyddiannau nodedig yn ystod y flwyddyn dan sylw gan ddilyn thema gyffredinol hunanwella. Maent yn cynnwys Honey We’re Killing the Kids (ar rôl rhieni yn arferion bwyta afiach eu plant, gydag arddangosfa gysylltiedig yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth); Spendaholics (ar ddyled bersonol); a Dog Borstal (ar hyfforddi anifeiliaid anwes). Parhaodd perfformiad BBC Three yn gryf gyda chomedi cartref. Mae Two Pints of Lager and a Packet of Crisps, Tittybangbang, Naked City Gohebu celfyddydol arloesol: daeth 1,700 o wirfoddolwyr noeth ynghyd ar y Quayside yn Gateshead er mwyn i’r artist o’r UD Spencer Tunick dynnu llun ohonynt – cydweithrediad rhwng BBC Three a Chanolfan Celf Gyfoes Baltic Man Stroke Woman, Ideal a chyfres newydd o lwyddiant sefydledig y sianel Little Britain yn enghreifftiau da o frwdfrydedd y sianel wrth fynd i’r afael â’r genre anodd hwn sy’n llawn risg.Ymhlith drama gryf roedd y gomedi dywyll Funland. Ailadroddwyd fformat Flashmob – the Opera yn llwyddiannus, y tro hwn yn Sheffield gyda fersiwn o hanes Faust wedi’i berfformio yng ngwydd pobl a oedd yn siopa yng nghanolfan siopa Meadowhall. Recordiodd Naked City, cydweithrediad â Chanolfan Celf Gyfoes Baltic ar Tyneside,brosiect yr artist Spencer Tunick i gynnull 1,700 o wirfoddolwyr noeth ar lan y cei a thynnu llun ohonynt. Gwnaeth BBC Three waith arloesol i ehangu ei chynyrchiadau y tu hwnt i ddarlledu, er enghraifft, drwy ddangos y gyfres newydd o’i chomedi The Mighty Boosh am y tro cyntaf ar fand eang drwy bbc.co.uk. Rhaid canmol llwyddiant cyffredinol y sianel. Fodd bynnag, mae meysydd o bryder. Mae gan y sianel gylch gwaith penodol i apelio i gynulleidfaoedd iau ond mae oedran ei chynulleidfa ar gyfartaledd tuag at ben hyn yr ystod oedran targed. Mae’r rheolwyr yn bwriadu canolbwyntio o’r newydd ar gynulleidfaoedd iau, a gallai ailbwyslais ar gymryd risgiau a chynyrchiadau gwreiddiol nodedig o ansawdd uchel fod yn allweddol yn hyn o beth. Ni all y sianel fforddio unrhyw ostyngiad hir dymor yng nghanfyddiadau’r gynulleidfa o’i gwreiddioldeb. 3 Cynyddodd nifer yr unigolion mewn cartrefi amlsianel 5 miliwn i 42.5 miliwn rhwng 2004/2005 a 2005/2006 28 BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 The Jitterbug Years Olrhain hanes drwy gerddoriaeth: defnyddiodd BBC Four ganeuon cyfoes a deunydd archif i gyflwyno stori Prydain ar ôl y rhyfel – rhan o dymor ‘Lost Decade’ y sianel yn archwilio diwylliant Prydain o 1945–1955 Cylch gwaith Nod BBC Four yw gwasanaethu cynulleidfaoedd sy’n chwilio am fwy o ddyfnder ac amrywiaeth yn yr hyn y maent yn ei wylio. Gan anelu at yr uchelgais mai hi fydd y sianel deledu orau o ran cyfoeth deallusol a diwylliannol ym Mhrydain, mae BBC Four yn anelu at gydbwyso cymysgedd arbennig o raglenni dogfen, perfformiad, cerddoriaeth, ffilm a rhaglenni nodwedd cyfoes fel dewis amgen boddhaol i raglennu mwy prif ffrwd. Mae cynulleidfaoedd BBC Four yn parhau i gynyddu.Yn 2005/2006, cyfartaledd y cyrhaeddiad wythnosol 15 munud i wylwyr 4+ oed mewn cartrefi amlsianel oedd 6.1% neu 2.6 miliwn o bobl (4.8%/1.8 miliwn yn 2004/2005)4. Mae BBC Four wedi parhau i wella ei henw da am gynyrchiadau gwybodus, deallus a heriol digywilydd yn gyson. Awgryma ymchwil y BBC i gynulleidfaoedd fod gwylwyr BBC Four o’r farn bod y sianel yn well na’i holl gystadleuwyr yn y DU, yn cynnwys sianelau daearol a sianelau digidol, o ran ansawdd uchel ei rhaglenni. Mae’r sianel wedi cael effaith drwy ddatblygu dramâu unigol ar themâu a phersonoliaethau cyfoes. Roedd Fantabulosa yn bortread llwm a chofiadwy o’r digrifwr Kenneth Williams yn seiliedig ar ei ddyddiaduron, a chafwyd dramateiddiad tryloyw a diddorol o’r treial yn 1963 am anlladrwydd yn nofel D H Lawrence yn The Chatterly Affair.The Quatermass Experiment oedd y ddrama fyw gyntaf ar deledu’r BBC ers sawl blwyddyn. Daeth A View from a Hill ag ias foddhaus i gyfnod y Nadolig gydag addasiad clodwiw o glasur ysbrydion M R James. Fantabulosa Drama i ysgogi’r meddwl: Michael Sheen fel Kenneth Williams yn Fantabulosa, portread cymhellgar yn datgelu ochr dywyllach y digrifwr clodwiw Mae rhaglenni dogfen yn un o nodweddion cryfaf y sianel. Denodd maes Storyville (a rannwyd gyda BBC Two) ganmoliaeth haeddiannol am ei gomisiynu eclectig.Yn ogystal â Storyville, roedd rhaglenni dogfen cofiadwy yn cynnwys Monsoon Railway, portread atgofus o reilffordd Assam a Bengal a rhai o’r bywydau sy’n gysylltiedig â hi. BBC Four yw cartref ffilm ryngwladol ar y BBC. Dangosodd y sianel dair rhan Heimat (cronicl coffaol Edgar Reitz o hanes yr Almaen fodern) a pharhaodd ei hymrwymiad i Wobrau Sinema’r Byd. Mae hyn ochr yn ochr â’i chefnogaeth i Wobrau Grierson am raglenni dogfen a Gwobr Samuel Johnson am raglenni nad ydynt yn ffuglen fel rhan o ymwneud ehangach y sianel â’r genres hyn. Mae’r sianel yn ceisio ehangu ei hapêl tra’n bodloni ei chylch gwaith mewn sawl ffordd, gan gynnwys comedi arloesol, a dangosodd ail gyfres y rhaglen ddychan wleidyddol graff The Thick of It yr hyn y gellir ei gyflawni yn y maes hwn. Mae’r sianel hefyd yn ceisio cynyddu ei heffaith gyda thymhorau o gynyrchiadau cysylltiedig. Roedd ‘The Lost Decade’ yn gyfres o raglenni dogfen a oedd yn agoriad llygad a archwiliodd wahanol agweddau ar fywyd ym Mhrydain rhwng 1945 ac 1955; ymhlith y pynciau a drafodwyd roedd rhyw, sensoriaeth, bwyd, gwleidyddiaeth, chwaraeon, hamdden a diwylliant. Adeiladodd tymor Bob Dylan ar y momentwm a grëwyd gan raglen ddogfen Scorsese ar BBC Two mewn ffordd llawn dychymyg gan ddefnyddio casgliad o ffilmiau newydd ac archif. Dathlodd Folk Britannia gerddoriaeth draddodiadol y DU drwy gyfres gysylltiedig o raglenni dogfen, rhaglennu archif a pherfformiadau byw. 4 Cynyddodd nifer yr unigolion mewn cartrefi amlsianel 5 miliwn i 42.5 miliwn rhwng 2004/2005 a 2005/2006 127 awr o raglennu addysgol newydd wedi’i ddarlledu ar BBC Three yn 2005/2006 BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 29 Arolwg y Llywodraethwyr o’r gwasanaethau – Teledu Cylch gwaith Nod Sianel CBBC yw cynnig amserlen gymysg arbennig i blant 6 i 12 mlwydd oed, gan eu hannog i ganfod mwy am ddiddordebau sydd ganddynt eisoes neu eu hysbrydoli i ddatblygu rhai newydd a’u helpu i ddeall a manteisio ar y byd o’u hamgylch. Rhydd y sianel bwyslais ar annog cyfranogiad. Parhaodd cynulleidfaoedd Sianel CBBC i gynyddu.Yn 2005/2006, cyfartaledd y cyrhaeddiad wythnosol 15 munud i wylwyr 4+ oed mewn cartrefi amlsianel oedd 6.0% neu 2.6 miliwn o bobl (5.6%/2.1 miliwn yn 2004/2005)5. Erys natur arbennig y sianel ynghlwm â’i hansawdd uchel, ei hamrywiaeth (gan gynnwys newyddion, addysg a drama), ei lefel isel o ailddarlledu, y ffaith nad oes hysbysebion arni a’i chyfran uchel o ddeunydd gwreiddiol o ansawdd a gynhyrchir yn y DU drwy gydol y dydd.Yn ystod y flwyddyn, darlledwyd mwy o gynnwys newydd o ansawdd, yn enwedig drama, am y tro cyntaf ar Sianel CBBC – a CBeebies – yn hytrach nag ar BBC One neu BBC Two. Mae arddull gyflwyno’r sianel yn fywiog ac yn egnïol ac mae’n gweithio’n galed i fod yn ymwybodol o ofynion ei chynulleidfaoedd. Yn adroddiad y llynedd, nodwyd gennym yr amheuon a godwyd gan yr Athro Patrick Barwise yn ei adolygiad annibynnol o’r sianel a gomisiynwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) o ran tôn llais Sianel CBBC, a gofynnwyd i’r rheolwyr ymateb yn ffurfiol i ni mewn perthynas â hynny. Cyflwynwyd eu hadroddiad i ni ym mis Gorffennaf 2005. Jonny’s Hotshots Annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon: chwaraewr rhyngwladol Lloegr Jonny Wilkinson yn rhannu cyfrinachau rygbi gyda gwylwyr CBBC Nododd y rheolwyr rai problemau penodol gyda chyflwynwyr amhrofiadol (er iddynt nodi ei bod yn ofynnol i’r sianel ddatblygu talent newydd ar yr awyr) gan dderbyn o bryd i’w gilydd fod y sioe bore Sadwrn Dick and Dom in da Bungalow wedi croesi terfynau chwaeth. Fodd bynnag, cawsom sicrwydd ganddynt fod rheolaethau priodol ar waith, gan gynnwys hyfforddiant sefydlu, canllawiau golygyddol a fforymau adolygu rhaglenni. Bu i ni gymeradwyo eu hymagwedd at dôn ac arddull gyflwyno gan gefnogi perfformiad cyffredinol y sianel, a fu’n ychwanegiad llwyddiannus iawn i bortffolio’r BBC sy’n cael adborth cadarnhaol iawn gan rieni. Athroniaeth Sianel CBBC yw “dysgu drwy hwyl”. Mae elfen o ddysgu a datblygu sgiliau bywyd yn treiddio i ran helaeth o’i chynyrchiadau, gan gynnwys drama a rhaglenni ffeithiol. Mae Blue Peter, Newsround a Short Change yn enghreifftiau o ochr ddifrifol y sianel. Mae Short Change yn ymdrin â materion defnyddwyr ac yn galluogi plant i wneud dewisiadau hyddysg. Bellach mae gan Newsround elfen ymchwiliol, sy’n archwilio problemau megis yfed dan oed yn y DU. Lansiwyd gwefan ‘Newsround Press Pack’, gan roi cyfle i blant ddysgu hanfodion newyddiaduraeth a chyhoeddi eu gwaith, a bu’r safle yn boblogaidd iawn.Yn ogystal, lansiodd y sianel Sportsround, sioe chwaraeon wythnosol sy’n annog plant i gymryd rhan mewn chwaraeon.Yn Jonny’s Hotshots, cynhaliodd chwaraewr rygbi rhyngwladol Lloegr Jonny Wilkinson feistr ddosbarthiadau rygbi i grwp o blant. Mae’r amserlen hefyd yn cynnwys Class TV, bloc pedair awr o raglenni i ysgolion a ddarlledir bob dydd yn ystod yr wythnos yn ystod y tymor. Bwriedir i’r rhaglenni hyn gael eu defnyddio’n bennaf yn yr ystafell ddosbarth ac maent yn canolbwyntio ar y cwricwlwm ysgol. Mae sianelau digidol newydd sy’n cael eu lansio wedi’u hanelu at garfanau o gynulleidfa graidd CBBC yn golygu y gallai fod angen i’r 56% o blant 7-15 oed ym Mhrydain Fawr – y nifer a ymwelodd â bbc.co.uk/CBBC ym mis Rhagfyr 2005 sianel weithio’n galed i gynnal ei chyrhaeddiad yn ystod y cyfnod sydd i ddod. Fodd bynnag, ar sail tystiolaeth y flwyddyn ddiwethaf, mae mewn sefyllfa dda i ymateb i’r her honno, ac mae’r rheolwyr wedi dechrau ar raglen o adfywio’r sianel, gan gynnwys dod â rhai rhaglenni hirsefydledig a llwyddiannus i ben. 5 Cynyddodd nifer yr unigolion mewn cartrefi amlsianel 5 miliwn i 42.5 miliwn rhwng 2004/2005 a 2005/2006 30 BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 Charlie and Lola Dysgu am fywyd: llyfrau poblogaidd Lauren Child i blant am gydberthnasau teuluol, wedi’u cyflwyno mewn cyfres newydd wedi’i hanimeiddio yn y DU ar CBeebies Cylch gwaith Nod CBeebies yw cynnig cymysgedd o raglenni newydd a nodedig o ansawdd uchel a gynhyrchir yn y DU i addysgu a diddanu cynulleidfa ieuengaf y BBC. Mae’r gwasanaeth yn darparu amrywiaeth o raglennu wedi’i gynllunio i annog dysgu drwy chwarae i blant pump oed neu iau, mewn amgylchedd cyson ddiogel. Gostyngodd cyrhaeddiad CBeebies ychydig yn ystod y flwyddyn, er i nifer y bobl a oedd yn gwylio’r sianel gynyddu o ganlyniad i’r cynnydd yn nifer y cartrefi a all dderbyn y sianel6. Yn 2005/2006, cyfartaledd y cyrhaeddiad wythnosol 15 munud i wylwyr 4+ oed mewn cartrefi amlsianel oedd 8.8% neu 3.7 miliwn o bobl (9.0%/3.4 miliwn yn 2004/2005). Gan fod llawer o’r gwylwyr o dan bedair oed, mae’r ffigurau hyn yn tanamcangyfrif gwir faint y gynulleidfa. Athroniaeth y sianel yw “dysgu drwy chwarae” ac mae’r holl raglennu, fwy neu lai, yn gysylltiedig â Chwricwlwm Cyfnod Sylfaen y Llywodraeth.Ymhlith rhaglennu newydd eleni roedd Lazytown, yn annog iechyd a ffitrwydd, a Charlie and Lola, animeiddiad newydd o’r DU sy’n edrych ar gydberthnasau teuluol drwy lygaid plentyn – cynhyrchiad swynol a gwreiddiol. Adferwyd Muffin the Mule, gan helpu ei gwylwyr i ddeall gwerth ffrindiau a gweithio fel tîm.Ymhlith y cyfresi cryf a ddychwelodd roedd Boogie Beebies (dawnsio a chanu); The Roly Mo Show (drama a straeon); a Tweenies (sgiliau cymunedol a chymdeithasol). Gwasanaeth rhyngweithiol CBeebies yw’r gwasanaeth rhyngweithiol gan y BBC a ddefnyddir fwyaf ond un, sef y gwasanaeth Cyrhaeddiad wythnosol gwasanaethau Teledu’r BBC 2005/2006 (% unigolion) 2006 2005 79.7 81.9 2005/ 2004/ 85.3 86.6 59.1 61.4 BBC Four BBC Three BBC Two BBC One Teledu'r BBC 4.5 3.0 11.8 9.4 Sianel CBBC 4.2 3.5 CBeebies 6.4 5.8 BBC News 24 BBC Parliament 5.4 4.2 0.2 0.2 Ffynhonnell: BARB.TNS/Infosys, 4+ oed Pob Cartref, cyfartaledd cyrhaeddiad wythnosol 15 munud 2005/2006 Newyddion, ac mae’r sianel yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o fanteisio ar bosibiliadau addysgol prosesau ar-lein. Cynlluniwyd gwefan Something Special a’r rhaglenni cysylltiedig i helpu plant ag anawsterau dysgu. Ategir yr iaith a ddefnyddir yn y rhaglenni gan arwyddion a symbolau Makaton, sydd wedi’u cynllunio i blant yng nghamau cynnar datblygu iaith eu deall ac maent yn cael eu cydnabod fel ffordd effeithiol o feithrin sgiliau cyfathrebu pobl ag anawsterau dysgu. Mae rhieni yn cydnabod llwyddiant CBeebies gan nodi’n rheolaidd mai hi yw’r sianel orau i blant. Fodd bynnag, er mai hi yw arweinydd y farchnad o hyd o ran yr holl sianelau i blant, mae’r gostyngiad mewn cyrhaeddiad yn ystod y flwyddyn dan sylw yn arwydd clir ei bod yn dechrau wynebu problemau mewn byd digidol cynyddol gystadleuol. Mae rhai o’i rhaglenni wedi cyrraedd diwedd eu hoes greadigol ac mae angen dybryd i adfywio’r portffolio. Mae’r rheolwyr wedi datgan eu bod yn ymwybodol o’r mater yn eu Datganiadau o Bolisi Rhaglenni a nodwn eu hymrwymiad i ddarparu mwy o gynnwys i’r ystod oedran hyn o blith gwylwyr CBeebies. 6 Cynyddodd nifer yr unigolion mewn cartrefi amlsianel 5 miliwn i 42.5 miliwn rhwng 2004/2005 a 2005/2006 BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 31 Arolwg y Llywodraethwyr o’r gwasanaethau – Radio Trosolwg Mae’r tirlun radio yn parhau i newid ar gyflymder aruthrol, gyda’r sector masnachol yn dod at ei gilydd, a ffyrdd newydd o wrando yn prysur ledaenu.Yn gynyddol, mae cynulleidfaoedd iau yn gwrando drwy lwyfannau digidol, gan ddisgwyl cael cynnig deunyddiau gweledol ategol yn ychwanegol at y gerddoriaeth, ac mae Radio’r BBC wedi dechrau arbrofi gan ddefnyddio teledu rhyngweithiol. Mae hefyd wedi ehangu ei dreial pod-ddarlledu – caiff y treial hwn ei gynnwys yn y Prawf Gwerth Cyhoeddus a gymhwysir i’r BBC iPlayer. Ar y cyfan, erys perfformiad Radio’r BBC yn gryf – yn wir, mae ei gynyrchiadau mwyaf poblogaidd yn denu cynulleidfaoedd ar yr un raddfa â sioeau teledu poblogaidd.Yn gyffredinol, mae cynulleidfaoedd yn gadarn, er bod y darlun yn amrywio ar draws y portffolio a bod poblogrwydd cynyddol cerddoriaeth wedi’i lawrlwytho yn bygwth cyrhaeddiad i wrandawyr iau a all gael eu cerddoriaeth o leoedd eraill heblaw’r radio. Mae gorsafoedd digidol yn unig y BBC yn llwyddiannus ar y cyfan ac maent yn dechrau gwneud cyfraniad i gyrhaeddiad cyffredinol Radio’r BBC. Cytunwyd gennym ar gylch gwaith newydd i BBC Asian Network i ymdrin â rhai o’r problemau a wynebwyd ganddo. Buom bob amser o’r farn bod eu natur arbennig wrth wraidd cylchoedd gwaith Radio 1 a Radio 2. O dan y system lywodraethu bresennol, credwn ein bod wedi llwyddo i sicrhau bod y rheolwyr wedi cyflwyno cynyrchiadau arbennig i’r ddau rwydwaith. Gan ddefnyddio’r systemau sydd ar gael i’r Ymddiriedolaeth, credwn y bydd yn haws cynnal y sefyllfa hon – a darparu mwy o fesurau perfformiad gwrthrychol yn hyn o beth. 32 BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2005/2006 Sunday Surgery Hyrwyddo rhyw mwy diogel: teithiodd The Radio 1 Sex Tour, cydweithrediad gyda’r Brifysgol Agored, ledled y DU gan ymchwilio i agweddau rhywiol fel rhan o Sunday Surgery Radio 1 – yma, yn Londonderry, gyda Kemal o Big Brother Cylch gwaith Nod BBC Radio 1 yw cynnig gwasanaeth cyffrous, o ansawdd uchel i gynulleidfaoedd ifanc. Mae’n ymrwymedig i chwarae’r gerddoriaeth newydd orau a chyflwyno amrywiaeth cynhwysfawr o sesiynau stiwdio byw, cyngherddau a darllediadau o wyliau. Nod y rhwydwaith yw cwmpasu holl genres arwyddocaol cerddoriaeth ifanc gyda rhestr chwarae eang a thîm amrywiol o DJs arbenigol. Mae hefyd yn cyflwyno darllediadau llafar wedi’u teilwra gan gynnwys newyddion, rhaglenni dogfen ac ymgyrchoedd cynghori, gyda gwasanaethau ar-lein a rhyngweithiol integredig. Mae Radio 1 yn chwarae rhan allweddol wrth alluogi’r BBC i gyrraedd cynulleidfaoedd ifanc ac mae llwyddiant yr orsaf yn hanfodol i lwyddiant Radio’r BBC yn gyffredinol. Rydym yn falch bod y strategaeth newydd a gymeradwywyd gennym ar gyfer Radio 1 yn 2003 yn parhau i ddwyn ffrwyth. Mae’r orsaf wedi gwyrdroi’r gostyngiadau blynyddol mewn cynulleidfaoedd a gofnodwyd rhwng 2000 a 2003.Yn 2005/2006, roedd cyrhaeddiad wythnosol 15 munud Radio 1 i oedolion 15+ oed ar gyfartaledd yn 10.2 miliwn o bobl neu 20.6% (10 miliwn/20.4% yn 2004/2005)1. Cyflawnwyd hyn heb unrhyw ostyngiad yn ymrwymiad Radio 1 i amserlen arbennig gydag ymrwymiad cryf i gerddoriaeth arbenigol, cerddoriaeth o’r DU, cerddoriaeth newydd a cherddoriaeth fyw. Er mwyn sicrhau bod ei natur arbennig yn cael ei chynnal, mae Radio 1 yn monitro ei darllediadau yn barhaus ac yn ogystal, caiff Radio 1 a Radio 2 eu monitro gan asiantaeth allanol am wythnos One Big Weekend Cerddoriaeth ar daith: Zane Lowe, un o gyflwynwyr Big Weekend Radio 1 yn Sunderland, yn mynd â’r gerddoriaeth newydd orau i ardal a gaiff ei diystyru’n aml gan y gwyliau mawr sampl ddwywaith y flwyddyn i asesu eu natur arbennig – yn erbyn ei gilydd ac yn erbyn gorsafoedd masnachol allweddol. Mae’r Uned Lywodraethu wedi astudio canfyddiadau’r asiantaeth allanol sy’n dangos bod Radio 1 yn dal gafael ar amserlen arbennig. O gymharu â gorsafoedd masnachol allweddol, roedd darllediadau Radio 1 yn ystod y dydd (sy’n cynnwys amseroedd gwrando brig) yn cynnwys llawer mwy o ganeuon newydd a llai o draciau yn cael eu hailadrodd, cyfran uwch o gerddoriaeth newydd gan unigolion a grwpiau o’r DU ac ymrwymiad llawer uwch i gerddoriaeth fyw. Rydym yn gadarn o’r farn y dylid cynnal y natur arbennig hon, gan gynnwys yn ystod oriau brig, ac y dylid lleihau unrhyw achosion o orgyffwrdd â Radio 2 i’r eithaf. Mae’r orsaf wedi ehangu ystod ac amrywiaeth ei digwyddiadau byw. Roedd Big Weekend Radio 1 o Sunderland yn arbennig o nodedig, gan gyflwyno’r goreuon o blith cerddoriaeth newydd i ardal sydd wedi’i thanwasanaethu. Mae cyflwynwyr cryf yn un o ffactorau allweddol llwyddiant Radio 1 ac mae’r grwp a gasglwyd ynghyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn sail i amrywiaeth a chryfder creadigol yr orsaf. Helpodd cyflwynwyr fel Zane Lowe (a gydnabuwyd eleni gyda Gwobr Aur Sony) i ddenu gwrandawyr i gerddoriaeth newydd. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth bod ymwybyddiaeth o rai rhaglenni arbenigol yn isel a nodwn ymrwymiad y