BBC Trust BBC Governors
Home Annual report What's new About the Governors Documents & reports BBC Trust Advisory bodies Have your say
Board meetings Sub-committee meetings BBC objectives
Objectives 2006/07Objectives 2005/06Objectives 2004/05 Objectives 2003/04
Statements of Programme Policy Reviews Service licencesPublic Value Test Complaints bulletinFair trading

Amcanion y BBC

Fel Llywodraethwyr, rydyn ni'n gyfrifol am sicrhau fod y BBC yn gweithio er lles gwylwyr a gwrandawyr.

Ar eu rhan, rydyn ni'n asesu pa mor effeithiol mae'r BBC yn cyflawni ei ddiben cyhoeddus: cyfoethogi bywydau pobl gyda rhaglenni a gwasanaethau sy'n hysbysu, addysgu a diddanu. I sicrhau fod y rheolwyr yn canolbwyntio ar gyflawni'r diben cyhoeddus hwnnw, rydyn ni'n nodi amcanion bob blwyddyn ac yn monitro perfformiad yn eu herbyn.

Mae'r amcanion hyn yn darparu fframwaith strategol ar gyfer y BBC, ond nid dyma'r unig fesur rydyn ni'n ei ddefnyddio i asesu perfformiad. Bob gwanwyn, rydyn ni hefyd yn cyhoeddi Datganiadau o Bolisi Rhaglenni'r BBC sy'n nodi cylch gorchwyl bob gwasanaeth, ac yn ymrwymo'r BBC i ddarparu amrywiaeth eang o gynnyrch gwasanaeth cyhoeddus. Yn Adroddiad Blynyddol y BBC, yn ogystal ag asesu perfformiad yn ôl yr amcanion, rydyn ni hefyd yn gwerthuso perfformiad y BBC yn ôl y cylchoedd gorchwyl hyn ac wrth ddarparu ymrwymiadau cynnyrch.