Un o'r ffyrdd mae'r Llywodraethwyr yn cadw golwg ar weithgareddau y BBC i sicrhau ei fod yn cadw at ei ymrwymiadau, yw cynnal arolygon annibynnol o bryd i'w gilydd. Rydym wedi cynnal saith arolwg o'r fath: ar faterion cyfoes welir ar y teledu, ar raglenni crefyddol, ar werth am arian, ar ddarlledu ar bwnc yr Undeb Ewropeaidd, ar ddarlledu ar y gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd, ar y cynnig am Ffi'r Drwydded ac ar Newyddion Busnes.
Arweinir yr adolygiadau hyn gan Fwrdd y Llywodraethwyr ac fe'u cynhelir yn annibynnol ar Reolwyr y BBC. Mae gan bob un ei gylch gorchwyl ei hun, a meini prawf maen nhw'n eu defnyddio i feirniadu ac yn cael eu beirniadu ar eu sail.
Yng nghyfnod y Siarter newydd, bydd gan holl wasanaethau teledu, radio ac ar-lein y BBC drwyddedau gwasanaeth ac, ynghyd â hyn, bydd rhaglen o adolygiadau cynhwysfawr yn cael ei sefydlu, er mwyn galluogi'r Llywodraethwyr i farnu sut mae bob un yn perfformio yn ôl telerau ei drwydded. Rydyn ni'n disgwyl i'r holl wasanaethau gael eu hadolygu yn ystod cyfnod o bum mlynedd.
Bydd pob adolygiad yn defnyddio gwaith ymchwil ac ymgynghori trylwyr gyda'ch cynulleidfaoedd, ac yn ystyried gwerth cyhoeddus ac effaith ar y farchnad.
Cynhelir adolygiadau ychwanegol ar faterion penodol sy'n cael eu crybwyll gan gynulleidfaoedd, yn seiliedig ar raglen ymgynghori a gwrando a gynhelir gan y Llywodraethwyr i'w nodi. Gallai'r adolygiadau hyn fod yn seiliedig ar wasanaeth neu ar bynciau eraill fel amhleidioldeb, neu pa mor dda mae'r BBC yn gwasanaethu rhannau penodol o'r gymdeithas.
Cyhoeddir canfyddiadau pob adolygiad.
Bydd Adroddiad Blynyddol bob blwyddyn yn adrodd ar yr adolygiadau a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn honno, prif ganfyddiadau ac effaith y camau a gymerwyd fel ymateb i adolygiadau blaenorol.
Cytunodd Bwrdd y Llywodraethwyr ar gyfres o adolygiadau Gwerth am Arian hefyd a fydd yn cael eu cynnal gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol.
Top